Cyfarwyddebau’r UE
Cyhoeddir Cyfarwyddebau gan Senedd yr Undeb Ewropeaidd ac yna fel arfer fe’u trosglwyddir yn gyfreithiau’r DU. Gweler Deddfau, Rheoliadau ac Offerynnau Statudol am fwy o wybodaeth am Gyfarwyddebau’r UE. Polisďau eraill y dylech fod yn ymwybodol ohonynt efallai neu archwilio mwy arnynt, yw’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Rheoliadau Datblygu Gwledig. Rheoliadau Datblygu Gwledig a Chynlluniau Datblygu Gwledig Mae gofyn i bob aelod-wladwriaeth gyflwyno Cynlluniau Datblygu Gwledig sy’n dangos y bydd y Rheoliadau Datblygu Gwledig yn cael eu cymhwyso. Mae Cynlluniau Datblygu Gwledig ar wahân ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban. Ariannu gan y Gymuned Ewropeaidd - Mae mwyafrif arian y Gymuned Ewropeaidd i gefnogi coedwigaeth yn dod trwy grantiau a delir o dan gynlluniau grant pob gwlad
- Daw’r gefnogaeth ariannol hon o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF)
- Telir rhan Gyfarwyddo’r gronfa (a elwir hefyd yn Ariannu Strwythurol) o fewn ardaloedd Amcan diffiniedig
Ardaloedd Amcan yr UE Mae Ariannu Strwythurol wedi’i dargedu ar gyfer Ardaloedd daearyddol, er mwyn cyflawni Amcanion amrywiol. Mae’r Amcanion yn annibynnol ar ei gilydd - h.y. gall ardal gael ariannu Amcan 1 neu Amcan 2 ond nid y ddau ohonynt
- Mae statws Ardal Amcan yn gymwys am gyfnod penodol (e.e. 1994-1999)
- Diffinnir Ardaloedd Amcan o ran ardaloedd daearyddol (Unedau Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth 4)
- Ar hyn o bryd, mae dau fath o ardal Amcan, rhifau 1 a 2.
Amcan 1 Mae’r Amcan hwn yn darparu lefelau uchel o gefnogaeth er mwyn gwella gallu’r rhanbarthau a dargedwyd i greu cyfoeth. Fel arfer mae’n gymwys i ardaloedd lle mae creu cyfoeth yn ôl y pen (Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y pen) yn llai na 75% o’r cyfartaledd Ewropeaidd. Y nod yw hyrwyddo datblygu ac addasu strwythurol y rhanbarthau hyn er mwyn cyflymu eu tyfiant economaidd. Amcan 2 Mae’r Amcan hwn yn rhoi cymorth i’r ardaloedd hynny sydd wedi dioddef fwyaf gan ddirywiad diwydiannol er mwyn creu sail economaidd newydd. Mae’r rhain yn ardaloedd lle mae diweithdra’n fwy na’r cyfartaledd Ewropeaidd neu mae cyfran y bobl a gyflogir mewn swyddi diwydiannol yn fwy na’r hyn sy’n arferol yn yr UE. Ariannu ychwanegol Mae’r Rheoliadau Datblygu Gwledig yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau’r UE ailgyfeirio cyfran o’r taliadau y’u bwriadwyd i gefnogi’n uniongyrchol gynhyrchiant amaethyddol, a’u defnyddio ar gyfer cynlluniau sy’n gymwys o dan y Rheoliadau Datblygu Gwledig. Mae hyn yn golygu bod mwy o arian ar gael ar gyfer coedwigaeth. Modiwleiddio y gelwir hyn.
|