Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Deddfau, Rheoliadau ac Offerynnau Statudol

Rheoliadau
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gyfrifol am weinyddu amrywiol fecanweithiau rheoliadol, trwy gyfrwng Deddfau Seneddol, Offerynnau Statudol a thrwy weithredu Cyfarwyddebau yr Undeb Ewropeaidd (UE). Byddwn yn sicrhau, lle bo modd, bod yr holl gynigion ar gyfer gwaith coetiroedd yn bodloni’r rhain lle bo’n briodol.

Mae’r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r DU i gyd – oni bai bod cyfraith sy’n berthnasol i wlad benodol. Yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o’r deddfau yn berthnasol i Gymru a Lloegr, gyda chyfraith yr Alban yn berthnasol i waith a wneir yn yr Alban neu i faterion y mae a wnelont â’r Alban. 

Gallwch ddefnyddio’r cyswllt dogfennau sydd ar waelod y dudalen hon i weld rhestr o’r holl ddeddfwriaeth berthnasol ynghyd ag esboniad o sut rydym yn cymhwyso pob un. Cynhwysir yr holl brif gyfreithiau a weinyddir gan y Comisiwn Coedwigaeth yn y tabl hwn. Cynhwysir hefyd Gyfreithiau’r DU a ddeilliodd o Gyfarwyddebau yr UE. Mae cynnwys y tabl wedi’i drefnu yn ôl trefn yr wyddor. Gweler Cyfarwyddebau yr UE am fwy o wybodaeth.

Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i ddarganfod mwy am paham a sut rydym yn rhoi cyfreithiau ar waith. Gallwch ymchwilio mwy i hyn, os mynnwch; gellir cael copïau o’r ddeddfwriaeth a restrir isod trwy fynd at wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI).

Rhestr Ddeddfwriaethau  (94k - pdf)