|
Cofrestr plannu newydd a chwympo coed
Newidiadau i’r gofrestr ar-lein o geisiadau cynllun grant a chwympo coed O ddiwedd mis Medi 2006, gwnaethpwyd newidiadau i’r ffordd y ceir mynediad at wybodaeth ar-lein am geisiadau cynllun grant a chwympo coed. Mae dogfen Cofrestr ceisiadau cynllun grant a chwympo coed – Gwasanaeth Ar-lein a Ddiweddarwyd (2080k - pdf) yn rhoi mwy o fanylion am ddefnyddio’r cyfleuster ar-lein newydd hwn.
I weld y gofrestr ar-lein, cliciwch ar y cysylltiad isod i fynd i dudalen fap lle gallwch ddewis unrhyw un o ardaloedd y Comisiwn Coedwigaeth.
Wrth glicio ar ardal ar y map gwelwch sgrin sy’n rhestru achosion ymgynghori ar gyfer yr ardal honno a’r rheiny lle gorffennwyd y broses ymgynghori ac a gymeradwywyd (gweler Gofyn am fwy o wybodaeth isod). Rhennir y sgrin yn 3 rhan. - Chwilio fesul Rhanbarth/ Gwarchodaeth
Mae’r adran hon yn eich caniatáu i newid y canlyniadau’r chwilio drwy ddewis Gwarchodaeth arall neu ddod o hyd i achosion a restrir yng Nghanlyniadau Chwiliad Cofrestr Gyhoeddus Glade fesul ardal Awdurdod Lleol.
- Canlyniadau Chwiliad Cofrestr Gyhoeddus Glade
Mae hon yn rhestru achosion sydd wedi’u gosod ar ein system ar-lein G a Th ac mae’n cynnwys ceisiadau Coetiroedd Gwell i Gymru (CGG). Caiff y rhestr hon ei diweddaru’n ddyddiol.
- Edrych ar fanylion achosion
Cliciwch ar y cyfeirnod achos i gael gwybodaeth gryno am yr achos. Gallwch weld Adroddiad Achos hefyd sy’n rhoi mwy o wybodaeth ar ffurf PDF a map. Bydd arnoch angen Adobe Acrobat Reader 6.0™ neu well i weld hyn. - Cyflwyno sylwadau
Defnyddiwch y botwm Cyflwyno Sylwadau i lenwi’r ffurflen electronig. Gallwch bostio’ch sylwadau i swyddfa’r Comisiwn hefyd – trwy ddefnyddio’r cyfeiriad a welir yn yr Adroddiad Achos.
- Canlyniadau Chwiliad Cofrestr Gyhoeddus Cynllun Grant Coetir
Mae’r rhestr hon yn cynnwys manylion am yr holl achosion eraill a gafwyd o’n systemau hŷn. Mae’r rhain yn cynnwys Cynllun Grant Coetir, Cynllun Cnydau Ynni, ceisiadau cwympo coed a rhai achosion CGG a nodwyd ar y rhestr cyn 25 Medi. Caiff y rhestr ei diweddaru’n wythnosol.
- Edrych ar fanylion achos
Yn ogystal â’r wybodaeth yn y tabl, gallwch edrych ar fap drwy glicio ar y cyfeirnod achos. Os hoffech gael mwy o fanylion, cysylltwch â’r Swyddfa Gomisiwn leol gan ddyfynnu’r cyfeirnod. - Cyflwyno sylwadau
Anfonwch eich sylwadau i’r Swyddfa Gomisiwn leol trwy gyfrwng neges e-bost neu drwy’r post.
Yn y pen draw, rhestrir pob achos yng Nghanlyniadau Chwiliad Cofrestr Gyhoeddus Glade. Mae cymorth ar-lein ar gael - cliciwch yr eicon cymorth. Yma cewch esboniadau ar y codau a ddefnyddir ar gyfer yr achosion a restrir. I adael unrhyw ran o’r cymhwysiad dewiswch y botwm Yn ôl yn y gornel chwith ar frig y sgrin. Gofyn am fwy o wybodaeth Dangosir achosion â’r statws Ymgynghori (neu FPR - Cynigion Cadarn ar Canlyniadau Chwiliad Cofrestr Gyhoeddus Cynllun Grant Coetir) ar y gofrestr am 28 diwrnod (y cyfnod ymgynghori). Yn ystod y cyfnod hwn bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn croesawu sylwadau oddi wrth ymgynghoreion statudol ac yn darparu mwy o fanylion, am gais i bartïon a diddordeb, os gwneir cais amdanynt. Pan fo’r ymgynghori ynghylch cais wedi dod i ben bydd statws yr achos yn newid i Cymeradwywyd (neu FPR – Cynigion Cadarn ar Canlyniadau Chwiliad Cofrestr Gyhoeddus Cynllun Grant Coetir) ac arddangosir y manylion eto ar y Gofrestr er gwybodaeth yn unig. - Anfonwch neges e-bost neu ysgrifennwch i swyddfa’r Comisiwn Coedwigaeth Cymru, gan ddyfynnu cyfeirnod y cynllun a ddangosir ar y Gofrestr.
- NI fydd copïau o’r cais yn cynnwys gwybodaeth bersonol am yr ymgeisydd (e.e. enw, cyfeiriad, rhif ffôn, gwerth y grant ac ati).
- Os yw’r copi yn fawr neu os gofynnir yn rheolaidd am gopïau, mae’n bosibl y codwn dâl am y gwasanaeth.
Rhoddir ystyriaeth i bob sylw, mewn ymgynghoriad â’r ymgeisydd, ac, os yw’n briodol, gall y cais gael ei newid neu ei wrthod. - Sylwer bod mwyafrif y ceisiadau yn ymwneud â gwaith a fydd yn cael ei wneud ar dir preifat ac y gall fod angen cael caniatâd cyn mynd ar y tir. Mae hyn yn dal yn wir hyd yn oed ar ôl i’r darn tir gael ei roi ar Gofrestr Ceisiadau cynllun grant a chwympo coed.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cyhoeddi manylion am geisiadau plannu a chwympo coed y mae’n barod i’w cymeradwyo yng Nghofrestr ceisiadau cynllun grant a chwympo coed. Mae hyn yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cais penodol i gyflwyno sylwadau i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae gennych 28 diwrnod o’r dyddiad yr ymddangosodd yr achos am y tro cyntaf yn y Gofrestr i gyflwyno sylwadau. Gweler trefn Ymgynghori CGG hefyd.
|
|
 |