Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Cofrestri Cyhoeddus
 

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn ymgynghori ag awdurdodau lleol a chyrff eraill pan wneir cais am greu coetir newydd, cwympo coed neu waith coedwigaeth arall a all gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

Yn rhan o’r broses ymgynghori, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth ar-lein am y ceisiadau hyn mewn dwy gofrestr:

  • Cofrestr ceisiadau cynllun grant a chwympo coed; a
  • Chofrestr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Mae’r ddwy gofrestr fel ei gilydd yn galluogi unrhyw un i chwilio am wybodaeth am gais penodol, neu benderfyniad a wnaed gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Sylwer na ddatgelir unrhyw wybodaeth bersonol am yr ymgeisydd yn y cofrestri.

Cofrestr ceisiadau cynllun grant a chwympo coed
Mae’r Gofrestr hon yn cynnwys manylion ceisiadau am grant i blannu o’r newydd neu waith coedwigaeth arall, a chwympo coed yn y cais am grant. Os mai am gwympo coed yn unig y gwneir cais, cyhoeddir manylion o’r drwydded honno. Gellir gweld hefyd fap sy’n dangos ffiniau’r cynnig. Dangosir manylion achos pan fo’r Comisiwn Coedwigaeth yn barod i gymeradwyo’r cais a bydd y manylion hyn ar y Gofrestr am bedair wythnos. Dangosir manylion yr achos eto ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo. 

Cofrestr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol
O dan Reoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999, mae’n rhaid i’r Comisiwn Coedwigaeth ddangos y penderfyniadau y mae’n eu gwneud ynghylch a gaiff y cynigion effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Dangosir manylion achos a phenderfyniad y Comisiwn Coedwigaeth adeg yr asesiad cychwynnol (Barn).

Mewn achosion lle bo angen cydsyniad y Comisiwn Coedwigaeth cyn gwneud y gwaith, dangosir manylion dau gam arall pan fo’r sy’n gwneud cais yn trefnu cyfarfod cwmpasu a phenderfyniad terfynol y Comisiwn Coedwigaeth (pennu) ynghylch a roir caniatâd i ddechrau ar y gwaith ai peidio.


Sut rydym yn ymgynghori am blannu coetir a chwympo coed (288k - pdf)




to DirectGov