|
Grantiau sydd ar gael

Mae cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru (BWW) yn cynnig y cymhelliannau canlynol ar hyn o bryd: - Grant Paratoi Cynllun Rheoli
Yn cynnig help â’r gost ar gyfer defnyddio Cynlluniwr Rheoli i baratoi adroddiad sylfaenol a Chynllun Rheoli fel rhan o gais CGG.
- Grantiau Sefydlu Coetiroedd
Grantiau ar gyfer creu coetiroedd newydd. Mae rhai o'r grantiau a gyflwynir yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2012.
- Grantiau Ailblannu
Ar gael ar gyfer ailblannu cnydau, coetiroedd cymysg a chynhenid. Mae graddfeydd uwch ar gael ar gyfer ailstocio yn rhan o waith cynnal Planhigfeydd ar Safleoedd Hen Goetiroedd.
- Grant Gwella Coetiroedd – Amgylchedd Silvi
Grantiau i gynorthwyo â dod a’r coetir yn ôl o dan reolaeth ac i wella gwerth y coetir o ran cadwraeth. Mae rhai o'r grantiau a gyflwynir yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2012.
- Grant Gwella Coetiroedd – Manteision Cymdeithasol
Grantiau ar gael ar gyfer darparu adnoddau hamdden ac addysgol a fydd o les ac i gynorthwyo â gwaith amwynder yn gyffredinol.
Defnyddiwch y cysylltiadau ar y chwith i ddod o hyd i wybodaeth fanylach am bob math o grantiau,
Coetiroedd Gwell i Gymru - Canllaw i Berchnogion Coetiroedd (954k - pdf)
|
Beth sydd o ddiddordeb
Y Weledigaeth: "I Gymru gael ei chydnabod am ei choetiroedd o ansawdd uchel sydd yn harddu’r dirwedd, sydd yn addas i’r amgylchiadau lleol ac sydd â chymysgedd amrywiol o rywogaethau a chynefinoedd a fydd yn cynnig manteision cymdeithasol a chymunedol go iawn, yn cynnal diwydiannau ffyniannus yn seiliedig ar goetiroedd ac yn cyfrannu tuag at amgylchedd o ansawdd gwell ledled Cymru."
Tudalennau cysylltiedig
|
 |
 |