Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Aseswyr Arbenigol CGG
 

Mae rhai o’r cynlluniau rheoli yn galw am asesiad arbenigol, er enghraifft, os yw’r safle o werth ecolegol uchel neu os yw perchennog am ddefnyddio technegau rheolaeth arbenigol fel Coedwigaeth Gorchudd Di-dor.   Yn yr achosion hyn bydd aseswr arbenigol yn gweithio gyda’r cynlluniwr rheolaeth i lunio adroddiad sydd wedi ei ymgorffori yn y cynllun rheolaeth.  Mae’r penderfyniad i gyflogi gwasanaethau aseswyr arbenigol cymeradwy yn cael ei wneud ar y cyd gan y cynlluniwr rheolaeth a CCC.

Mae’n rhaid i aseswyr arbenigol:

  • Feddu ar wybodaeth drylwyr o’u maes arbenigol gan gynnwys y gyfraith a’r rheoliadau sydd raid eu cymhwyso.
     
  •  Deall polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru a CCC sy’n berthnasol i’w maes hwy o arbenigedd a’r ffordd y gweithredir polisïau o’r fath yng nghynlluniau rheolaeth CGG.

  • Meddu ar ddealltwriaeth ehangach o fentrau fel Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth a Rhwydweithiau Cynefin.

Nodwyd y meysydd canlynol o arbenigedd yn rhai sy’n galw am wasanaeth aseswr arbenigol.

  • Arbenigwr Coedwigaeth Gorchudd Di-dor - Yn paratoi asesiad CGD ar gyfer planhigfa lle mae potential ar gyfer trawsnewid CGD ac mae gan berchennog y coetir ddiddordeb.  Yr ardal leiaf ar gyfer CGD yw 5ha.

  • Arbenigwr ar Blanhigfeydd ar Safleoedd Hen Goetiroedd – yn asesu ac yn gwerthuso PSHG  ac yn argymell rheolaeth briodol – ardal leiaf ar gyfer asesiad yw 3ha.

  • Arbenigwr ar Ecoleg Coetiroedd - Yn ymgymryd ag asesiadau ecolegol ar yr holl goetiroedd cynhenid dros 10ha sy’n ymddangos ar Restr Dros Dro Hen Goetiroedd.

  • Arbenigwr ar Reolaeth Ceirw - Yn paratoi cynlluniau rheoli ar gyfer coetiroedd lle mae ceirw yn ffactor sylweddol sy’n effeithio ar reolaeth, yn unol â Menter Ceirw Cymru.

  • Arbenigwr ar Goedwigoedd Cymdeithasol -  Yn trefnu ac yn cyd-lynu deialog rhwng cymunedau neu grwpiau â diddordeb  lle mae eu hymrwymiad yn rhan briodol o reolaeth coetir. 

Cod Ymarfer
Mae rhaid i bob cynlluniwr rheolaeth ac aseswr arbenigol ddilyn Cod Ymarfer CCC sy’n amlinellu’r egwyddorion a’r ymddygiad y mae’n rhaid iddynt eu dilyn tra’u bod yn gweithio oddi mewn i Gynllun Coetiroedd Gwell i Gymru.


AT12 Ymagwedd at Drefniadau Contractiol (Adobe Acrobat™ PDF - 118k)

GL10 Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Cynllunwyr Rheoli ac Aseswyr Arbenigol (Adobe Acrobat™ PDF - 146k)
GL11 Dewis Cynllunwyr Rheoli ac Aseswyr Arbenigol (Adobe Acrobat™ PDF - 126k)

SA09 Patrymlun ar gyfer yr Adroddiad Rhanddeiliaid (Adobe Acrobat™ PDF - 116k)
SA09 Patrymlun ar gyfer yr Adroddiad Rhanddeiliaid (MSWord™ doc  - 891k)

Ffurflenni Cais
A1 Ffurflen Gyffredinol (MSWord™ doc - 1041k) - 7/02/2008 
A3 Ffurflen Gais Arbenigwr Coedwigaeth Gorchudd Parhaus (MSWord™ doc - 947k) - 7/02/2008 
A4 Ffurflen Gais Arbenigwr Planhigfeydd ar Safleoedd Hen (MSWord™ doc - 949k) - 7/02/2008 
A5 Ffurflen Gais Arbenigwr Ecoleg Coetir (MSWord™ doc - 945k) - 7/02/2008 
A6 Ffurflen Gais Arbenigwr Cymdeithasol (MSWord™ doc - 951k) - 7/02/2008 
A7 Canllaw i lenwi Ffurflenni Cais Cynllunwyr Rheolaeth ac Aseswyr Arbenigol (MSWord™ doc - 110k) - 7/02/2008 
A8 Ffurflen Gais Arbenigwr Ychwanegu Gwerth (MSWord™ doc - 936k) - 7/02/2008 


Beth sydd o ddiddordeb

Gwell Coetiroedd i Gymru
Amserlen 2008-09 ar gyfer Dewis Cynllunwyr Rheoli ac Aseswyr Arbenigol Newydd
(PDF - 60k)

Gwasanaethau Technegol CGG:
Manylion cysylltu:
Ffôn:0845 604 0845
e-bost:
Bww.ts@forestry.gsi.gov.uk
Cyfeiriad Post:
Comisiwn Coedwigaeth
Clawdd Newydd
Rhuthun
LL15 2NL


to DirectGov