Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Cynllunwyr Rheoli
 

Mae pob cymorth grant o dan gynllun Coetiroedd Gwell i Gymru wedi ei seilio ar waith y cytunwyd arno mewn cynllun rheoli a baratowyd gan gynlluniwr rheolaeth ar ran perchennog coetir.

Mae Cynllunwyr rheolaeth yn gyfrifol am eich cynghori ynglŷn â gofynion a manteision cynllun CGG a chysylltu’r rhain â’ch amcanion o ran y coetir.  Maent hefyd yn cyflwyno cais CGG ar eich rhan gan ddefnyddio ein system grantiau a thrwyddedau ar-lein.  Mae paratoi cynllun rheoli yn galw am sgiliau arbenigol a phrofiad o goedwigaeth a rheoli coetiroedd.  Mae cynllunwyr rheolaeth sy’n meddu’r sgiliau hyn i’w gweld ar ein rhestr o gynllunwyr rheolaeth cymeradwy.    Mae’n rhaid i’r holl gynllunwyr rheolaeth lynu at ein Cod Ymarfer.

Mae’r grant paratoi cynllun rheoli yn cyfrannu tuag at y gost o gyflogi cynlluniwr rheolaeth a gall hefyd gyfrannu tuag at gostau petai angen gwasanaeth  aseswr arbenigol. Arbenigwyr sy’n gallu cynnal y math arbennig o waith asesu a fo’n angenrheidiol, yw aseswyr arbenigol, er enghraifft, asesiad o ecoleg coetir. Bydd y cynlluniwr rheolaeth a’r CCC yn penderfynu gyda’i gilydd p’un a fydd angen penodi aseswyr arbenigol yn ystod y paratoadau ar gyfer y cynllun rheoli.  Fel yn achos cynllunwyr rheolaeth, mae’n rhaid i aseswyr arbenigol gael eu cymeradwyo gennym ni a glynu wrth ein Cod Ymarfer.  Nid oes rhaid i chi wneud cais am y grant paratoi cynllun rheoli eich hunan; bydd y cynlluniwr rheolaeth yn gwneud hyn yn rhan o’r cais CGG ar eich rhan. 

Os ydych yn dymuno gwneud cais CGG bydd angen i chi benodi cynlluniwr rheolaeth o blith y rhai ar ein rhestr o rai cymeradwy. 

Sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen
Mae’n rhaid i gynllunwyr rheolaeth allu dangos amrywiaeth eang o sgiliau gan gynnwys y gallu i:

  • Adnabod y mathau allweddol o goed, eu cymwysterau a’u gofynion coedwrol.
  • Mapio a rhoi coetir mewn adrannau, a chynllunio, costio a rheoli’r prif fathau o weithrediadau coedwigaeth. 
  • Deall marchnata coedwigaeth. 
  • Adnabod cynefin, rhywogaeth planhigion ac anifeiliaid sy’n gysylltiedig â choetiroedd ac i fod yn ymwybodol o reoliadau a Chanllawiau UKFS a Choedwigaeth.
  • Cydweithio â’n methodoleg ar gyfer asesu coetir.
  • Gweithio gyda systemau TG er mwyn creu, cyflwyno a rheoli pob agwedd ar baratoi cynllun rheoli ar-lein.
  • Cyfathrebu ac ysgrifennu’n effeithiol.
  • Deall polisi coedwigaeth Cymru a’r berthynas rhyngddo â chymorth grant CGG.
  • Deall y gyfraith a’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â choed, yn enwedig trwyddedau cwympo coed a Rheoliadau Asesu Effaith Amgylchedol.

Cod Ymarfer
Mae’n rhaid i bob cynlluniwr rheolaeth ac aseswr arbenigol ddilyn Cod Ymarfer CCC sy’n amlinellu’r egwyddorion a’r ymddygiad y mae’n rhaid iddynt eu dilyn wrth iddynt weithredu oddi mewn i gynllun Gwell Coetiroedd i Gymru.

Sut i ddod yn gynlluniwr rheolaeth
Os ydych am wneud cais i ddod yn gynlluniwr rheolaeth edrychwch ar yr adran ffurflenni a llyfrynnau isod am arweiniad pellach.  Anfonwch y ffurflenni wedi eu llenwi at: Alison Evans, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Swyddfa Rhanbarthol Gogledd Cymru, Clawdd Newydd, Rhuthun, Clwyd LL15 2NL  E-bost alison.evans@forestry.gsi.gov.uk

Os ydych yn llwyddiannus ac yn cael eich derbyn yn gynlluniwr rheolaeth cymeradwy gan CCC yna bydd angen i chi ddod i gytundeb â ni am gyfnod o dair blynedd.  Mae’r cytundeb hwn yn ymwneud â pharatoi’r holl gynlluniau rheolaeth a ddaw at CCC yn y cyfnod hwnnw.  Mae cytundebau rhwng cynllunwyr rheolaeth a pherchnogion coetir yn gysylltiedig â pharatoi cynllun rheoli sengl fesul cais.  Rhaid llofnodi cytundeb newydd ar gyfer pob cynllun rheoli newydd y gall y bydd perchennog yn gwneud cais amdano.


Ffurflen Gais am Fapiau Copi Caled (Adobe Acrobat™ PDF - 61k)
Ffurflen Gais am Fapiau Copi Caled (MSWord™ - 900k)

Ffurflen Gais am Fapiau Digidol (Adobe Acrobat™ PDF - 62k)
Ffurflen Gais am Fapiau Digidol (MSWord™ - 900k)

GL10 Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Cynllunwyr Rheoli ac Aseswyr Arbenigol (Adobe Acrobat™ PDF - 146k)
GL11 Dewis Cynllunwyr Rheoli ac Aseswyr Arbenigol (Adobe Acrobat™ PDF - 126k)

Ffurflenni Cais
A1 Ffurflen Gyffredinol (MSWord™ doc - 1041k)
A2 Ffurflen Gais Cynlluniwr Rheolaeth (MSWord™ doc - 950k)
A3 Ffurflen Gais Swyddogaeth y Cynlluniwr Rheoli (MSWord™ doc - 317k)


Beth sydd o ddiddordeb
Tudalennau cysylltiedig


to DirectGov