Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru
Glastir Woodlands Creation Grant

Grant Creu Coetir Glastir 0300 068 0300 bww.ts@forestry.gsi.gov.uk

Grant Creu Coetir Glastir 

Mae yna grant creu coetir newydd ar gael drwy Gomisiwn Coedwigaeth Cymru:

  • Ar gyfer tirfeddianwyr ar draws Cymru sydd a dros 0.25 hectar o dir;
  • Ar dir dynodwyd yn addas ar gyfer plannu newydd gan CCC a chyrff cadwraeth eraill yng Nghymru;
  • Lle nad oes yna wrthdaro gyda chynlluniau amaeth amgylcheddol eraill.
Why Plant Trees on my farm thumbnail and link to document

Pam plannu coed ar fy fferm?

Bydd swyddogion Creu Coetir Glastir   ar gael i lunio eich cais ac mae’r gwasanaethau yn ddi-dâl i’r tirfeddiannwr.   Gellwch apwyntio swyddog eich hunan o'r rhestr ddethol CCC neu gofynwch i ni benodi un ar eich rhan. 

 

   

Faint o grant y gallaf ei gael?

Mae tair rhan i’r grantiau y gallwch eu hawlio:
  • Grant sefydlu a delir dros dair blynedd (gweler y tabl isod)
YNGHYD Â;
  • Grant ffensio o £3.15 y metr sy’n cynnwys lwfans ar gyfer giatiau a chamfeydd.
  • Taliad am incwm a gollir a gaiff ei hawlio’n flynyddol gan ddefnyddio’r Ffurflen Cais Sengl (FfCS/SAF). Adwaenir hyn fel y Premiwm Creu Coetir. Gall ffermwyr hawlio £300 yr hectar y flwyddyn am 15 mlynedd, gall y rheiny nad ydynt yn ffermwyr hawlio £66 yr hectar y flwyddyn am 15 mlynedd.
Math o goetir Plannu Newydd Glastir – Grant Sefydlu £/hectar
Blwyddyn 1 Blwyddyn 2 Blwyddyn 3
Coetir bach syml 500 150 150
Coetir  cymysg sylfaenol 980 500 500
Coetir cymysg ansawdd uwch 2350 500 500
Coetir brodorol Carbon 3500 500 500
Coetir brodorol bioamrywiaeth 1890 500 500

 
Beth y dylwn i ei wneud nesaf?

Gallwch gael manylion llawn y cynllun drwy gysylltu â thîm Coetiroedd Glastir yn bww.ts@forestry.gsi.gov.uk neu drwy ffonio 0300 068 0300. 

Manylion Cyswllt:
Swyddogion prosiect cymeradwy cynllun creu coetir Glastir

Gallwch hefyd edrych ar reolau llawn cynllun Creu Coetir Glastir ar-lein.

Cyfeirnod Cwsmer (CRN)
Mae grantiau ar gael i bob tirfeddiannwr yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd angen i chi gysylltu ag Is-adran Taliadau Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru i gael Cyfeirnod Cwsmer (CRN) ac i gofrestru’r tir cyn gwneud cais am grantiau. Mae hyn oherwydd bod ein grantiau’n cael eu hariannu’r rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13, a bod yn rhaid bodloni rhai rheolau newydd. Un o’r rheolau hyn yw bod yn rhaid i bawb sy’n derbyn grantiau, wedi’u hariannu drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghymru, gael Cyfeirnod Cwsmer unigryw. Bydd pob Cyfeirnod Cwsmer yn cael ei gysylltu â set o fanylion talai y cyfeirir yr holl daliadau grant iddynt.
Os nad oes gennych Gyfeirnod Cwsmer, bydd angen i chi gofrestru am un cyn y gallwn gymeradwyo eich cynllun grant. I gofrestru, bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa Ranbarthol leol y Cynulliad a gofyn am gopi o’r ffurflenni perthnasol. A fyddech cystal â hysbysu LlCC eich bod yn gwsmer coedwigaeth. Ni all y Comisiwn Coedwigaeth gofrestru ar eich rhan.
Os ydych chi’n ffermwr sy’n derbyn taliad fferm sengl, neu os ydych yn cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylchedd, megis Tir Gofal, bydd gennych Gyfeirnod Cwsmer yn barod. (Mae’r rhif yn cychwyn gyda’r llythyren A, gyda saith digid yn dilyn, er enghraifft, A0044267.)
Mae’r grantiau newydd yn grantiau annibynnol o fewn Glastir.   
 

  • Nid oes rhaid i chi fod yn ffermwr i wneud cais.
    Os ydych eisoes wedi gwneud cais am Elfen Cymru Gyfan (ECG/AWE) Glastir, gallwch ddal i wneud cais am ein grantiau Creu Coetir Glastir.                                                                                                                                  
  • Ni fydd plannu gan ddefnyddio’r grantiau hyn yn cael unrhyw effaith ar gais i Elfen Cymru Gyfan Glastir yn y dyfodol.                                                                                                                                                                   
  • Ni fydd yr ardal a blennir yn lleihau’r pwyntiau y gall tirfeddiannwr eu hawlio ar gyfer yr Elfen Cymru Gyfan oni bai ei fod ef/hi yn dewis hepgor ardaloedd coetir o gais Elfen Cymru Gyfan Glastir.