Hawliau a Rheoliadau
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl gynigion am waith coetir yn bodloni rheoliadau cyfreithiol a statudol ar lefel Genedlaethol, yr Undeb Ewropeaidd (UE) a Rhyngwladol. Defnyddiwch y dolenni ar y chwith i gael gwybod mwy am y safonau, y rheoliadau a’r ddeddfwriaeth y mae’n rhaid i’r Comisiwn Coedwigaeth eu parchu. Cwynion ac Apeliadau Yn anffodus, rydym yn cydnabod y bydd adegau pan na fyddwch yn fodlon ar benderfyniad neu wasanaeth a roddwyd gennym. Yn y fan hon gallwch gael gwybod sut rydym yn delio â chwynion ac apeliadau, yn gwynion sy’n gysylltiedig â’n cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru (CGG) a materion eraill fel ei gilydd. Deddfau, Rheoliadau ac Offerynnau Statudol (OSau) Dilynwch y ddolen hon i gael rhestr gynhwysfawr o’r holl ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae’n rhaid i ni ei chymhwyso. Cyfarwyddebau’r UE Daw llawer o’r Rheoliadau sy’n llywodraethu gwaith y Comisiwn Coedwigaeth i ddeddfwriaeth y DU drwy Gyfarwyddebau’r UE e.e. Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol a Rhywogaethau a Ddiogelir o dan gyfraith Ewrop. Mae Cynlluniau Datblygu Gwledig hefyd yn disgrifio sut caiff Rheoliadau Datblygu Gwledig eu cymhwyso. Safon Goedwigaeth y DU Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r meini prawf a’r safonau ar gyfer rheolaeth gynaliadwy’r holl goedwigoedd a’r coetiroedd yn y DU. Dyma’r safon sy’n cael ei chymhwyso i’r HOLL gynlluniau grant sydd ar gael gan y Comisiwn Coedwigaeth. Cyhoeddwyd Safon Goedwigaeth y DU yn wreiddiol ym 1998, ac ers hynny bu angen ei hailargraffu a rhai diweddariadau – mae hon ar gael erbyn hyn fel Ail Argraffiad. Gallwch lwytho copi am ddim i lawr o www.forestry.gov.uk/publications Asesu Effaith Amgylcheddol Mae’n bosibl y bydd angen i ni asesu’r gwaith a gynigir gennych o dan y Rheoliadau hyn. Yn y fan hon gallwch gael gwybod mwy am y broses a sut y gallai effeithio arnoch chi. Siarter y Dinesydd a Chodau Ymarfer Gallwch gael gwybod mwy am ein Siarter y Dinesydd, sy’n disgrifio’n hymrwymiadau i gyflwyno gwasanaeth effeithlon ac amserol i chi. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno bwrw golwg ar ein Codau Ymarfer ar gyfer Cynllunwyr Rheoli ac Aseswyr Arbenigol.
|