Ymgynghori
Ymgynghori ag eraill am geisiadau grant a chwympo coed Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn ymgynghori ag awdurdodau lleol, a chyrff eraill sydd â phwerau statudol, mewn perthynas â defnydd tir cyn penderfynu a ddylid cymeradwyo ceisiadau i blannu coetir a chwympo coed. Dangosir manylion ceisiadau ar ein Cofrestr Plannu Newydd a Chwympo Coed am 28 diwrnod. O dan gynllun grant Coetiroedd Gwell i Gymru (CGG), mae Cynllunwyr Rheolaeth yn gyfrifol am weithredu’r broses ymgynghori. Ni fydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cymryd rhan yn y broses oni bai fod y cynlluniwr yn methu â chyflawni’r ymgynghori yn foddhaol. Mae tudalen Trefn Ymgynghori CGG yn esbonio’r broses. Sut i wneud sylwadau ar geisiadau plannu newydd a chwympo coed Chwiliwch am geisiadau yn eich ardal chi drwy edrych ar ein Cofrestr Plannu Newydd a Chwympo Coed. Gallwch gael mwy o fanylion am unrhyw gais drwy gysylltu â swyddfa Warchodaeth y Comisiwn Coedwigaeth y mae’r awdurdod lleol o fewn ei ffiniau. Ymgynghori ag eraill ar geisiadau am ganiatâd o dan Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999 Bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn ymgynghori ag awdurdodau lleol a chyrff eraill, sydd â phwerau statudol, mewn perthynas â defnydd tir cyn gwneud penderfyniad ar geisiadau am ganiatâd. Dangosir manylion yr holl benderfyniadau a wneir gan y Comisiwn Coedwigaeth o dan y rheoliadau hyn ar y Gofrestr Asesu’r Effaith Amgylcheddol. Bodloni Safon Goedwigaeth y DU Ni fydd ceisiadau yn ymddangos ar y Gofrestr dim ond os byddant yn bodloni gofynion Safon Goedwigaeth y DU. Mae’r Safon yn nodi’r meini prawf a’r safonau ar gyfer rheoli cynaliadwy ar goedwigoedd a choetiroedd yn y DU. Pris llyfryn Safon Goedwigaeth y DU yw £7.50, fodd bynnag, gellir ei lwytho i lawr o wefan y Comisiwn Coedwigaeth yn: www.forestry.gov.uk/publications. Hysbysu cymdogion am gynigion Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i drafod eu cynigion â chymdogion lle gall y cynigion effeithio ar eu heiddo. Mewn rhai achosion, gwnawn hyn yn ofyniad. Yna mae’n rhaid i ymgeiswyr gofnodi manylion unrhyw drafodaethau a ddigwydd a chynnwys hyn gyda’u cais.
Sut rydym yn ymgynghori am blannu coetir a chwympo coed (288k - pdf)
|