Mae GLOS, sef Grantiau a Thrwyddedau Ar-lein, yn system newydd sy'n caniatau cynllunwyr rheolaeth a swyddogion Creu Coetir Glastir wneud cais ar ran tirfeddianwyr am grantiau a thrwyddedau cwympo, ac yn cantiatau perchnogion i reoli eu cytundeb cymeradwy ar-lein.
Tirfeddianwyr
Unwaith mae gennych gynllun rheoli gallwch ddefnyddio'r ddolen Grantiau a Th Ar-lein sydd isod. Cliciwch ar y dewis cofrestru. Ar ôl i chi gwblhau'r broses gofestru byddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair. Mae angen y rhain er mwyn logio mewn i'r system. Er mwyn rhoi'r cyfrif ar waith yn llawn bydd angen i chi anfon neges e-bost at y tîm gwasanaethau technegol bww.ts@forestry.gsi.gov.uk a'i hysbysu eich bod wedi sefydlu eich hun fel defnyddiwr newydd. Yn dilyn hyn, bydd y tîm yn eich cysylltu fel perchennog, at eich cais eich hun a byddwch yn gallu gweld manylion y cynllun yn llawn, rhedeg adroddiadau a gwneud caisam y grant ar-lein. Os oes gennych unrhyw anawsterau cysylltwch â'r tîm gwasanaethau technegol.
Cynllunwyr Rheoli a Swyddogion Creu Coetir Glastir
Cliciwch ar yddolen Grantiau a Thrwyddedau Ar-lein isod er mwyn cofrestru a logio mewn i'r gwasanaeth i greu a rheoli ceisisadu CGG ar-lein.
Ymgyngoreion
Cliciwch ar ddolen G a Th ar-lein isod er mwyn cofrestru a logio mewn i’r gwasanaeth i ychwanegu eich sylwadau ynghylch ceisiadau.
Os ydych am wneud rhywfaint o ymchwil am y tir yr hoffech ei gynnwys yn y cais am grant gallwch ddefnyddio ein harf Chwiliad Gwybodaeth Tir. Mae’n hawdd defnyddio’r arf map ar lein yn awr i ganfod y nodweddion sydd mewn ardal ddynodedig.
