|
Egni gwynt
Ffynhonnell egni glân ac adnewyddadwy yw pŵer o’r gwynt nad yw’n cynhyrchu unrhyw nwyon tŷ gwydr na chynhyrchion gwastraff.
Fel tirfeddiannwr mwyaf Cymru, mae’r Cynulliad wedi penderfynu y gall ffermydd gwynt ar y tir gyfrannu’n sylweddol at gwrdd â’r targedau a osodwyd ar gyfer egni adnewyddadwy. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Cynulliad Nodyn Cyngor Technegol 8 (TAN 8) Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy sy’n gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer datblygu ffermydd gwynt ar y tir erbyn 2010 yng Nghymru. Fel rheolwyr coetiroedd y Cynulliad, rydym yn gyfrifol am helpu i gyrraedd y targedau hyn. Mae ein Pwyllgor Cenedlaethol wedi adolygu’r ffordd orau o fynd ati i gyflawni amcanion y Cynulliad ym maes egni adnewyddadwy ac o ganlyniad rydym wedi sefydlu Rhaglen Ffermydd Gwynt yr Ystad Goedwig Genedlaethol i reoli’r broses hon.
25/10/07 - Prif Weinidog Cymru'n cyhoeddi oes newydd ar gyfer ynni adnewyddadwy 01/04/08 - Prif Weinidog Cymru'n cyhoeddi fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyrraedd y cam nesaf yn ei hymgyrch i gynyddu’r defnydd o egni adnewyddadwy er mwyn ymladd newid yn yr hinsawdd
|
Safleoedd defnyddiol
|
 |
 |