|
Grwpiau Gorchwyl a Gorffen
Ochr yn ochr â chyfarfodydd Partneriaeth Gyswllt Niwbwrch, mae gennym ni grwpiau llai sy’n trafod materion penodol Dyma'r grwpiau Gorchwyl a Gorffen. Hamdden a Mynediad | Yn trafod rhinweddau dewisiadau gwahanol o ran mynediad ac anghenion grwpiau defnyddwyr gwahanol. | Cynefinoedd a Rhiwogaethau | Yn trafod materion cadwraeth natur y Goedwig a’r Gwningar, gan gynnwys yr amrywiaeth helaeth o blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw yno. | Ymrwymiad y Gymuned a Phartneriaethau | Yn trafod sut orau i ddweud wrth y gymuned am y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Bartneriaeth Gyswllt a’r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen. | Economeg | Yn edrych ar sut orau i ddefnyddio’r goedwig a’r gwningar at ddibenion datblygiadau economaidd lleol. | Addysg | Yn trafod sut i wneud mwy o ddefnydd ar Goedwig a Thywyn Niwbwrch fel arf dysgu i bobl o bob oedran. Mae’r grŵp hwn yn cynllunio rhaglen o ddigwyddiadau.
| | Ymgynghori Cymunedol | Mae'r grŵp ymgynghori cymunedol yn penderfynu ar sut i ymgynghori â phobl Niwbwrch a deiliaid diddordeb ar gynigion sydd wedi deillio o waith Partneriaeth Gyswllt Niwbwrch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
| | Cludiant | Trafod cludiant i ac o fewn coedwig Niwbwrch a 'Newborough Warren'. Fe fydd y materion a drafodwyd yn cynnwys nifer o geir a ganiateir i mewn i goedwig Niwbwrch, parcio arall yn y pentref a chludiant cyhoeddus. |
I gael mwy o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â Robert Williams, y rheolwr coedwig lleol, ar 07775818958 neu anfonwch e-bost ato robert.williams@forestry.gsi.gov.uk
|
|
 |
 |