Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
  •  
  • Gyrru Cerbydau
  •  


Gyrru Cerbydau
 


Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd

  • Rydym wedi paratoi Cod Ymarfer i Yrrwyr Cerbydau mewn cytundeb efo Cymdeithas Yrru Prydain yng Nghymru.

  • Rydym wedi paratoi ffurflen ymateb i hysbysebu unrhyw broblemau ar lwybrau dynodedig.

  • Darganfyddwch mwy am cael Hawliau Digyddiad i gynnal digwyddiadau yng nghoedwigoedd y Cynulliad.

  • Ceir dau le yng Nghymru lle fedrwch troi lan a gyrru heb drwydded yng Nghymru sef llwybrau dynodedig i gerbydau yn Nyfnant, ger y Trallwng, a Llwybrau Crychan, ger Llanymddyfri. Mae Llwybrau Crychan heb eu dynodi fel llwybrau gyrru cerbydau, ond mae yna bolisi mynediad agored i gyrrwyr cerbydau ar y ffyrdd goedwig yn yr ardal yma - dylai unrhyw un sy'n gyrru yn y goedwig yma ddefnyddio'r arwydd rhifau dim ond fel mynegiad cyfeiriol sy'n ymwneud â'r cyfeirnod map.

  • Mae'n ofynnol gael trwyddedau i yrru cerbydau yn ein coedwigoedd heblaw am lwybrau dynodedig a cyfeirbwyntiedig yn Nyfnant a ffyrdd goedwig corfforedig yn llwybrau Crychan, a hefyd lle mae gennych hawl cyfreithiol i wneud hynny ar Gulffordd agored i bob traffig (BOAT) neu Gulffordd Gyfyngedig (ffordd a ddefnyddiwyd fel llwybr cyhoeddus yn y gorffennol) (RUPP). Cysylltwch â'r Rheolwr Ardal Leol ynglŷn â chyhoeddiad trwyddedau.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000. Pryd bynnag y bo modd, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn ceisio trefnu ei waith fel ei fod yn amharu cyn lleied â phosibl ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ac ni fydd yn gwneud cais ffurfiol am gau/gwyro oni bai bod risg Iechyd a Diogelwch. Os nad ydych yn siŵr a yw llwybr â hawl tramwy cyhoeddus wedi’i gau, a fyddech cystal â chysylltu ag adran briffyrdd eich awdurdod llywodraeth leol cyn ymweld. Bydd arwyddion ar y safle hefyd i ddangos a yw’r llwybrau hyn ar agor neu ar gau.


Cytundeb Gyrru Cerbydau rhwng Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chymdeithas Yrru Prydain yng Nghymru


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â Fil Wills ar 0845 604 0845 neu e-bostiwch felicity.wills@forestry.gsi.gov.uk


Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov