|
Ein strwythur
Mae ein Bwrdd Rheolwyr yn monitro systemau busnes a threfniadau gweinyddol Comisiwn Coedwigaeth Cymru a’i berthnasoedd â rhanddeiliaid.
Yn dilyn penderfyniad gan Weinidogion ar ddechrau 2004, cafodd yr asiantaeth ar wahân Rheoli Coedwigoedd ar gyfer CC Cymru ei hail-integreiddio yn ôl i’r rhiant-adran o 1 Ebrill 2004. Golyga hyn bod CC Cymru yn gweithredu dan strwythur integredig a’i fod yn gwasanaethu fel adran a chanddi brif swyddogaeth rheoli tir. Caiff Coetiroedd y Cynulliad eu rheoli gan ein pedwar Rhanbarth Coedwigo ac mae’r Tîm Grantiau a Thrwyddedau ar gyfer yr holl goetiroedd nad ydynt ym mherchnogaeth y Cynulliad yn gweithredu o dau swyddfa leol. Mae Swyddfa Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ac oddi yno y cyflawnir nifer o swyddogaethau corfforaethol ac adrannol gan gynnwys cyllid, adnoddau dynol, datblygu polisïau a chyfathrebiadau. Mae CC Cymru yn cael cefnogaeth yn ogystal gan Panel Ymgynghorol y Strategaeth Goetiroedd (PYSG), sydd yn gweithredu mewn rôl ymgynghorol i Weinidogion a Chomisiynwyr y Goedwigaeth fel ei gilydd ar weithrediad Coetiroedd i Gymru a’i adolygiad cyfnodol.
|
|
 |
 |