Lle fedraf marchogaeth yng Nghymru?
A fyddech mor garedig â chyfeirio at y map AO 1:25000 perthnasol i gael gwybodaeth am farchlwybrau.
Access the Map Viewer>> (gives information on access routes for horseriders in Wales)
Edrychwch ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru am wybodaeth ynglŷn â chaeadau presennol ac yn y dyfodol fel y penderfynwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000. Pryd bynnag y bo modd, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn ceisio trefnu ei waith fel ei fod yn amharu cyn lleied â phosibl ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ac ni fydd yn gwneud cais ffurfiol am gau/gwyro oni bai bod risg Iechyd a Diogelwch. Efallai fydd yn rhaid cau'r Hawliau Tramwy dros dro (dan Adran 33) pan fydd rhai digwyddiadau yn cael eu cynnal. Os nad ydych yn siŵr a yw llwybr â hawl tramwy cyhoeddus wedi’i gau, a fyddech cystal â chysylltu ag adran briffyrdd eich awdurdod llywodraeth leol cyn ymweld. Bydd arwyddion ar y safle hefyd i ddangos a yw’r llwybrau hyn ar agor neu ar gau.
Marchogaeth yn Ddiogel
- Concordat rhwng Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chymdeithas Ceffylau Prydain – Cymru (gan gynnwys Côd Ymddygiad i farchogwyr yng Nghoetiroedd Llywodraeth Cynulliad Cymru) (pdf, 94kb, 8 tudalen)
- Poster o'r Côd (pdf, 824kb, 1 tudalen)
Trefnu Digwyddiad Marchogaeth
- Hawliau Digyddiad i gynnal digwyddiadau yng nghoedwigoedd y Cynulliad
- Ffurflen ymateb i hysbysebu unrhyw broblemau (pdf, 1 tudalen)
Cysylltwch â:
0845 604 0845
ebost: fcwenquiries@forestry.gsi.gov.uk

