Partneriaeth Cyswllt Niwbwrch
Drwy bobl a mudiadau lleol fel Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth, nod yr ymgynghoriad hwn yw gwella dyluniad, rheolaeth a defnydd Ardal Coedwig a Thywyn Niwbwrch i wella ei gwerth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn y tymor hir drwy weithio gyda’n gilydd fel un uned.
Cylch Gorchwyl Unwaith y mis rydym yn dod ynghyd fel Partneriaeth Gyswllt Niwbwrch i drafod syniadau a materion mewn perthynas â Choedwig a Chwningar Niwbwrch. Ochr yn ochr â chyfarfodydd Partneriaeth Gyswllt Niwbwrch, mae gennym ni grwpiau llai sy’n trafod materion penodol. Daw’r grwpiau hyn o dan y teitl Grwpiau Gorchwyl a Gorffen. Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan cysylltwch a Robert Williams y rheolwr ardal lleol robert.williams@forestry.gsi.gov.uk ar 07775 818958 neu Elinor Gwynn, CCW, e.gwynn@ccw.gov.uk ar 01248 672500 Cyfarfodydd a Drefnwyd ar gyfer 2008 Ymgynghoriad Cyhoeddus Ionawr 2008 – man cyfarfod i’w gadarnhau.
Cefndir i'r Bartneriaeth Gyswllt Fe greodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar y cyd â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru gweledigaeth ar gyfer rheolaeth Niwbwrch, a gafodd ei gyflwyno i'r cyhoedd yn 2004.
Ymateb i'r Ymgynghoriad Gweledigaeth Cwestiynau ac atebion ar yr Ymgynghoriad Gweledigaeth (pdf, 13 tud, 155kb) Adroddiadau ar yr Ymgynghoriad Gweledigaeth
|