Mae’n drosedd cwympo coed heb drwydded, oni bai bod y gwaith wedi’i eithrio.
Mae Arweiniad Cryno i’r broses gyffredinol ar gael a gallwch gyfeirio at y llyfryn Cwympo Coed - Cael Caniatâd.
Eithriadau
Mae’n rhaid i bawb sy’n gysylltiedig â chwympo coed, y perchennog, asiant, masnachwr coed neu gontractwr, sicrhau bod trwydded wedi cael ei rhoi cyn gwneud unrhyw gwympo, os nad yw’r gwaith wedi’i eithrio. Cyfeiriwch at y dudalen Eithriadau i gael gwybodaeth am y mathau o dorri NAD oes angen cael trwydded ar eu cyfer.
Gwneud cais am drwydded
Os nad yw’r gwaith yn dod o fewn un o’r eithriadau, rhaid i chi lenwi cais ar gyfer trwydded cwympo coed.
Mae'n rhaid cyflwyno 2 GOPI o'r map wedi eu harwyddo a'u dyddio gyda phob ffurflen gais.
Os ydych am i ni ddarparu map ar eich cyfer, ticiwch ar 'Ofyn am fap'.
Cosbau
Mae’n drosedd i gwympo coed heb drwydded os oes angen un. Os na fydd yna drwydded neu ganiatâd dilys, neu os fydd y coed anghywir yn cael eu cwympo, gall unrhyw un sy'n gysylltiedig cael eu herlyn.
Rheolaethau cyfreithiol eraill
Mae cwympo coed wedi’i reoli gan ddeddfwriaeth arall hefyd, megis Gorchmynion Cadw Coed a’r Rheoliadau Gwrychoedd yn bennaf. Gweinyddir y ddeddfwriaeth hon gan yr awdurdodau cynllunio lleol. Mae rheoliadau eraill ar gyfer symud coed.
Gwybodaeth ychwanegol
- Cynlluniau grant
Gellir gwneud cais i gwympo coed fel rhan o gais o dan gynllun grant. Nid oes angen trwydded gwympo ar wahân. Bydd trwydded gwympo yn cael ei rhoi gyda’r contract a roddir o dan y cynllun. - Amodau ar drwydded cwympo coed
Bydd trwydded cwympo coed fel rheol yn cynnwys amodau bod yn rhaid i’r darn a dorrwyd gael ei ailstocio a bod yn rhaid i’r coed gael eu cynnal am gyfnod o ddim mwy na deng mlynedd. Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn trafod unrhyw amod ailstocio a gynigir gyda’r ymgeisydd cyn rhoi trwydded. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y rhoddir trwydded i gwympo coed heb fynnu bod y darn tir yn cael ei ailstocio. Asesir cais o’r fath o dan Reoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999. Bydd trwyddedau a roddir ar gyfer teneuo coed yn cael eu rhoi heb amod ailstocio. - Gorchmynion Cadw Coed
Rhaid i chi ofyn i’r awdurdod lleol a oes Gorchymyn Cadw Coed mewn grym neu a yw’r coed mewn Ardal Gadwraeth.

- Gofynnwch i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru bob amser os ydych chi’n meddwl nad oes angen trwydded arnoch

- Mae pawb sy’n gysylltiedig â chwympo coed yn gyfrifol am ddarganfod a oes angen trwydded
- Rhaid i ymgeiswyr ofyn i’r awdurdod lleol a oes Gorchymyn Cadw Coed mewn grym neu a yw’r coed mewn Ardal Gadwraeth
- Os nad oes trwydded neu ganiatâd dilys arall, neu os torrir y coed anghywir, gall unrhyw un sydd ynghlwm wrth hyn gael ei erlyn

Torri Coed - Cael Caniatâd (1748k - pdf)
Siarter Datganiad Safonol ar Drwyddedu Cwympo Coed (210k - pdf)
Cais am drwydded cwympo coed (126k - pdf)
Canllawiau bras ar gyfer cyfrifo cyfaint pren (70k - pdf)

