Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Chwiliad Gwybodaeth Am Dir

Beth yw Chwiliad Gwybodaeth am Dir?
Offeryn ar-lein seiliedig ar fap yw’r Chwiliad Gwybodaeth am Dir (LIS) sy’n rhoi gwybodaeth am unrhyw ddynodiadau tir neu nodweddion ar unrhyw ddarn o dir a ddewisir. Mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer ymchwilio’r tir rydych am ei gynnwys mewn cais am grant neu am gwympo coed cyn i chi wneud y cais.

Pwy sy’n cael defnyddio LIS?
Gall unrhyw un ddefnyddio LIS. Mae ymgeiswyr, defnyddwyr allanol eraill â diddordeb a staff y Comisiwn Coedwigaeth, oll yn defnyddio LIS i chwilio am nodweddion a dynodiadau ar ddarn penodol o dir.

Sut i ddefnyddio’r Chwiliad Gwybodaeth am Dir
Gallwch ei ddefnyddio mewn dwy ffordd, naill ai drwy wneud chwiliad sylfaenol neu chwiliad manwl. Mewn chwiliad elfennol gallwch lunio siâp ar y map a chael gwybodaeth am y darn hwn. Mewn chwiliad manwl, mae’r siapau rydych yn eu gwneud yn fwy cymhleth gan eich galluogi i fod yn fwy manwl ynglŷn â’r darn rydych am gael gwybod amdano. Bellach mae’r Chwiliad Gwybodaeth am Dir ar gael drwy ddefnyddio Internet Explorer 7.0™.

Mae gan fersiwn Internet Explorer 8.0TM opsiwn "compatibility mode" ddylai caniatáu i ddefnyddwyr fynd fewn i'r Chwiliad Gwybodaeth am Dir.

Gofyniadau lleiaf i redeg y Chwiliad Gwybodaeth am Dir

Yn unol â chanllawiau'r llywodraeth fe ddatblygwyd y Chwiliad Gwybodaeth am Dir i'w ddefnyddio gyda Microsoft Windows 98 neu'r fersiynau newydd (Windows 2000, ME, XP, Vista) er mwyn fod o ddefnydd i'r gynulleidfa ar-lein fwyaf posibl. Ar hyn o bryd y Porwyr We gynhaliol yw Explorer 6.0 a 7.0 sydd yn rhedeg ar un o'r systemau gweithredu a enwyd eisoes.

 

Sylwer bod y wybodaeth a gynhyrchir gan LIS ar gyfer gwlad benodol. Os yw’ch eiddo yn croesi ffin genedlaethol Lloegr bydd yn rhaid i chi ddefnyddio Chwiliad Gwybodaeth am Dir Lloegr i gael gwybodaeth am y tir hwnnw.

Defnyddio gwybodaeth o LIS pan wneir cais am grantiau neu drwyddedau
Rhaid i ymgeiswyr roi ystyriaeth i’r wybodaeth y mae’r chwiliad yn ei darparu. Mae mwy o fanylion am unrhyw nodweddion neu ardaloedd arbennig a restrir yn yr adroddiad LIS ar gael trwy gysylltu â’r corff perthnasol drwy ei wefan. Byddant yn rhoi cyngor am reoli a gofalu am y nodweddion hyn.

Sylwer, ni allwn dderbyn copi argraffedig o fap Chwiliad Gwybodaeth am Dir (LIS) yn rhan o gais cynllun grant neu gais am drwydded cwympo coed.

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y sefydliadau a ddarparodd setiau data i’w defnyddio yn y Chwiliad Gwybodaeth am Dir.

Mae’r safle’n gwneud defnydd o ffenestr dewislen naid i ddangos yr adroddiad. Peidiwch â rhwystro’r dewislenni naid. Bydd yn rhaid cael Adobe Acrobat Reader i ddarllen y ddogfen allgynnyrch wrth redeg Chwiliad Manwl.

Beth sydd o ddiddordeb

Cael Cymorth
Os na fyddwch yn medru cyrchu Chwiliad Gwybodaeth am Dir neu'n dod ar draws problemau wrth ddefnyddio'r system, cysylltwch â
Cymorth Systemau TG / GL Systems Support