Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Grantiau a Rheoliadau Cymru

Croeso i dudalennau Grantiau a Rheoliadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Ein nod yma yw ceisio egluro popeth y mae angen i chi ei wybod am ein grantiau a’n gwaith rheoleiddio yng Nghymru.

Mae’r adran hon o’r wefan yn rhoi manylion y grantiau sydd ar gael gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am  y trwyddedau cwympo coed a rheoliadau sy’n cael eu rheoli a’u gweinyddu gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Grantiau

  • Coetiroedd Gwell i Gymru (BWW)
    Coetiroedd Gwell i Gymru yw’r cynllun grant o eiddo Comisiwn Coedwigaeth Cymru sydd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

  • Arolwg o ffermwyr ā choetir ar eu tir, 2009
    Comisiynodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru arolwg yn 2009 i gasglu safbwyntiau ffermwyr ynghylch eu coetiroedd a’r grantiau coetir rydym ni’n eu cynnig. Mae’r arolwg wedi darparu gwybodaeth werthfawr ar ba mor effeithiol yw ein grantiau coetir i ffermwyr, a sut y gallwn ni eu gwella nhw. 
    Cyfwelwyd 264 o ffermwyr gan Wavehill Consulting ar ran y Comisiwn Coedwigaeth, gan gynnwys 100 nad ydynt erioed wedi gwneud cais am grant, er bod yna goetir ar eu tir.
    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Small, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, 0300 068 0039.

     
  • Mae ein Chwiliad Gwybodaeth Tir (LIS) yn dangos nodweddion ar eich tir neu ar dir pobl eraill.  Mae hyn yn eich galluogi i wneud ymchwil cyn gwneud cais am grant neu am drwydded i dorri coed byw.


Trwyddedau Cwympo

  • Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n rheoli cwympo coed yng Nghymru. Os ydych yn dymuno cwympo coed, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael caniatād gennym ni ar ffurf trwydded cyn y gallwch wneud hyn. Mae’r tudalennau ar drwyddedau cwympo coed yn egluro sut i gael trwydded, beth yw’r eithriadau, a sut i wneud cwyn neu apelio yn erbyn penderfyniad.

Asesu Effaith Amgylcheddol (AEA)

  • Mae’n rhaid i rai prosiectau coedwigaeth gwrdd ā safonau amgylcheddol y cytunwyd arnynt. Os ydym yn credu y bydd prosiect yn gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, bydd yn rhaid i chi gael caniatād i wneud y gwaith cyn cychwyn arno. Mae’r adran Asesu Effaith Amgylcheddol yn rhestru’r math o brosiectau lle mae AEA yn berthnasol ac yn egluro’r broses ar gyfer cael ein caniatād.

Ymgynghori

  • Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn ymgynghori ā’r rheiny sydd ā diddordeb ynghylch torri coed, plannu newydd a phenderfyniadau AEA (Asesu’r Effaith ar yr Amgylchedd), ac mae ein Cofrestri Cyhoeddus yn cynnwys gwybodaeth am y gweithgareddau hyn yn eich ardal chi.


Rhagor o wybodaeth

  • Hawliau a Rheoliadau
    Rhaid i’r holl waith coedwigaeth gwrdd ā’r safonau a geir yn Safon Coedwigaeth y DU (UKFS), y prif arweiniad i goedwigaeth gynaliadwy.

    Mae Arweiniad i Dystysgrifo Safon Sicrhau Coetir y DU (UKWAS) yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am ddefnyddio’r Safon ac am y broses o dystysgrifo coetiroedd a reolir yn ōl egwyddorion cynaliadwyedd.

    Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys:
    • Cyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd (UE);
    • Deddfau, Rheoliadau ac Offerynnau Statudol eraill sy’n gysylltiedig ag arfer coedwigaeth; a
    • Threfn Gwyno’r Comisiwn Coedwigaeth a’r Drefn Apelio yn erbyn penderfyniadau’r Comisiwn Coedwigaeth.


Safon Goedwigaeth y DU (Saesneg)


Beth sydd o ddiddordeb

Coetiroedd Gwell i Gymru (BWW)
Taflen Newyddion CGG

-----------------------------------

Tudalennau cysylltiedig