Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  


Cynllun Dyluniad Coedwig
 

Wild Ennerdale - Community consultationDyluniwyd pob coedwig gyhoeddus yng Nghymru trwy broses y Cynllun Dyluniad Coedwig.
Arolygir y cynlluniau dyluniad bob pum mlynedd.

Proses Arolygu
Bydd cynllunwyr, rheolwyr cadwraeth, rhodwyr hamdden a rhodwyr cymunedol yn y goedwig dan sylw yn cwrdd i weithio allan y bobl sydd â diddordeb mewn coetir penodol neu yr effeithir arnynt gan weithgareddau yno.

Bydd y tîm yn penderfynu pa gategori o ymgynghori sydd yn briodol am y gwahanol goetiroedd.

Categorïau

Categori A – ymgynghoriad gyda phartneriaid ymgynghori stadudol (megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru, cynghorau sir a chynghorau cymuned).

Categori B – categori A + pobl yn cyffinio ar y coetir, cyrff cadwraeth gyda diddordeb neu fudd yn y coetir dan sylw, unrhyw un sydd wedi mynegi diddordeb yn y coetir yn y gorffennol.

Categori C – categorïau A + B + ymgynghoriad cyhoeddus cyflawn.

Defnyddir y wybodaeth a geir o’r ymgynghoriadau i newid cynllun dyluniad y goedwig.
Yna rhestrir y cynllun dyluniad ar y gofrestr gyhoeddus am fis er mwyn caniatáu cyfle pellach i’r cyhoedd wneud sylwadau.

 


to DirectGov