Mae'r project wedi creu archif o recordiadau llafar, hen ffotograffau, atgofion ar bapur a deunyddiau eriall sy'n ymwneud â dyddiau cynnar y goedwig. Yn ogystal, mae wedi helpu i ennyn diddordeb yn hanes y cymunedau fu'n cyfranogi ac wedi cymell eriall i greu eu prosiectau treftadaeth eu hunain.
Mae'r archif ar gael i'w defnyddio gan y cyhoedd. Mae'n adnodd addysgol a chymdeithasol gwerthfawr i'r gymuned ac i unrhyw un sydd â diddordeb yn Hanes y Goedwig.
Os hoffech glywed lleisiau'r rhai sy'n adrodd Hanes y Goedwig neu edrych ar ffotograffau sy'n dangos bywyd y cyfnod, mae eich archif lleol yn:
Neuadd John Pritchard Jones, Niwbwrch
Ffôn: 01248 440608
Amgueddfa Menter Coedwigaeth, Ganllwyd, Dolgellau, LL40 2HY
Ffôn: 01341 422289
Ysgol Gynradd Corris
Ffôn: Ardal Cedwig Coed y Mynydd 01341 422289
Llyfrgell Machynlleth, Heol Maengwyn, Machynlleth
Cysylltwch â'r llyfrgellydd: 01654 702322
Neuadd y Pentref Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid (Hyd-Pasg)/Canolfan y Barcud, Tregaron
Ffôn: 01974 298977 (Pasg-Hyd)
Llyfrgell Pen-bre, Hen Ysgol Gynradd, Heol Ashburnham, Pen-bre
Cysylltwch â'r llyfrgellydd, os gwelwch yn dda: 07789 371191
