Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  


Beth ydy cydcoed?
 

  Mae Cydcoed yn rhaglen grantiau £16 miliwn sydd yn darparu cyllid a chefnogaeth 100% i grwpiau cymunedol yn yr Ardaloedd Amcan Un yng Ngorllewin Cymru, Gogledd Cymru a Chymoedd De Cymru er mwyn eu helpu gwneud defnydd o goetir i ddatblygu'r gymuned.

Mae Cydcoed yn helpu pobl Cymru i wneud y defnydd gorau o goetir am swyddi, tyfiant economaidd, hamdden a chadwraeth - yn gwneud coed a choetiroedd yn rhan gwerthfawr o bywyd y gymuned.

Mae Cydcoed yn ariannu grwpiau cymunedol sydd eisiau plannu coetiroedd newydd, neu gwella coetiroedd sydd eisioes gerllaw. Mae'r arian grant yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithfeydd fel gwella ansawdd coetiroedd; agor coetiroedd gyda llwybrau newydd, arwyddion a mainciau; gwaith celf yn, neu o gwmpas, y coetiroedd; prynu tir; plannu coed; a datblygu cyfleusterau goedwig sy'n cynnig buddion lleol fel ysgolion goedwig, busnesau wedi'u seilio yn y goedwig, neu gyfleusterau hamdden.

Ein nod cyffredinol yw hybu coedwigaeth yng Nghymru mewn ffordd sydd yn ei ganiatáu i gyflenwi datblygiad cymunedol. Mae’r canlyniadau yr ydym yn ceisio eu cyflawni fel a ganlyn:
Coedwigoedd sydd yn darparu buddion cymdeithasol lleol hir dymor, amgylcheddol ac economaidd.
Grwpiau cymunedol mawr â’r gallu i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’u hardal.

Ein targedau ffurfiol yw:
Cyfranogiad lleol mewn 311 o goetiroedd yn gorchuddio 4831 ha.
Dulliau rheoli newydd sydd yn darparu buddion lleol hir-gyfnod mewn 311 o goetiroedd yn gorchuddio 4808ha.
37 o goetiroedd cymunedol newydd yn gorchuddio 316 o ha.
Cefnogi 5 o fusnesau coetir a busnesau yn gysylltiedig â phren.
Diogelu 127 o swyddi coetir a busnesau yn gysylltiedig â phren.
Creu 40 swyddi.

Dyma'r targedau ar gyfer Cydcoed Rhan 1 a Rhan 2wedi cyfuno.

 

 


Coetiroedd I Bawb logo


to DirectGov