
Roedd Cydcoed yn un o’r rhaglenni Amcan Un mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd yng Nghymru. Roedd y rhaglen hon, a oedd yn werth £18 miliwn, yn cael ei rheoli gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ac yn cael ei hariannu gan yr UE (Amcan Un) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Manteisiodd dros 160 o grwpiau Cymunedol ar draws rhai o’r ardaloedd tlotaf yng Nghymru ar y prosiect datblygu cymunedol arloesol hwn, a chawsant gymorth i wella eu hansawdd bywyd.
Roedd y rhaglen hon yn defnyddio coetiroedd i ddarparu swyddi a chyfleoedd newydd, i roi grym i gymunedau, ac i hyrwyddo gweithgareddau hamdden iach, addysg a chadwraeth. Cafodd dros 37,500 hectar o goetiroedd yng Nghymru eu gwella a chreuwyd 227 hectar ychwanegol o goetir newydd.
Bu’r rhaglen yn rhedeg am 7 mlynedd, o 2001 i 2008. Prosiect o eiddo Comisiwn Coedwigaeth Cymru oedd Cydcoed, ac fe’i hariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd (Amcan 1) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Cydcoed yn brosiect Comisiwn Coedwigaeth Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd Amcan Un a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
|
|
|



