Stori'r goedwig
Prosiect Hanes Llafar Coedwigoedd yn y Gymuned Wledig.
Pwy yr ydym ac o ble y down sy'n egluro'r dyfodol yn ogystal â'n gorffennol. 
Sefydlwyd Prosiect Coedwigoedd yn y Gymuned Wledig yn 2002 i gofnodi Stori'r Goedwig.
Yn ystod canol yr 20fed ganrif bu newidiadau mawr yn nhirlun gwledig Cymru. Arweiniodd y newid mewn economi a chymdeithas at nifer o chwareli a mwyngloddiau yn cau, roedd ffermio mynydd yn llai hyfyw a gadawyd safleoedd cyfnod y rhyfel yn wag. Bu plannu coedwigoedd "newydd" yn fodd i newid llawer o'r Gymru wledig, yn arbennig yn yr ucheldir.
Drwy gael y cymunedau lleol i gymryd rhan yn y gwaith o gasglu'r atgofion hyn mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn gobeithio eu symbylu i gyfranogi at lunio'r defnydd a wneir o'r coedwigoedd yn y dyfodol.

Dyma amcanion y prosiect:
- Cofnodi atgofion y rhai a brofodd y newidiadau yn y tirlun a chysylltu'r atgofion hyn â safleoedd sydd wedi goroesi yn y goedwig
- Creu archif o Stori'r Goedwig a leolir yn lleol ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Annog pobl i ddeall a mwynhau y coedwigoedd
- Sbarduno ymwneud lleol yn natblygiad y goedwig a'r defnydd a wneir ohoni
Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan gysylltwyr y gymuned leol Ar hyn o bryd maent yn gweithio yng Nghoedwig Dyfi (wedi ei chanoli o gwmpas Corris a dyffryn Dyfi), Coed y Brenin (o amgylch Trawsfynydd), Thywi (o gwmpas Pontrhydfendigaid/Tregaron) a Choedwig Pen-bre.  
Gwybodaeth bellach: Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 01970 632535 Mae gan Comisiwn Coedwigaeth Cymru copϊau o'r lluniau - cysylltwch a Richard Siddons 0845 6040845

Cliciwch yma i weld cylchlythyr 1 Storiau o'r Goedwig. Cliciwch yma i weld cylchlythyr 2 Storiau o'r Goedwig. Cliciwch yma i weld cylchlythyr 3 Storiau o'r Goedwig.

|