Yn yr un modd â diwydiannau cynradd eraill megis amaethyddiaeth, mae coedwigaeth yn wynebu amgylchiadau masnachu anodd iawn gyda phrisiau isel am bren ar y farchnad fyd-eang. Ond mae busnesau trin pren yn parhau i fuddsoddi yng Nghymru. Mae rhyw 4,200 o swyddi sydd yn creu £61 miliwn o incwm defnyddiadwy, yn dibynnu ar y diwydiant pren gartref. Mae llawer o’r swyddi hyn yn gysylltiedig â’r ardaloedd gwledig ac maent yn gyfranwyr sylweddol i economïau lleol.
Amcangyfrifwyd mai £400 miliwn y flwyddyn yw allgynnyrch gros diwydiant coedwigaeth Cymru. Mae’r allgynhyrchion hyn yn deillio o ystod gyfan y diwydiannau, o gwmnïau helaeth rhyngwladol sydd yn cynhyrchu pylp pren, papur a bwrdd panelu, i fusnesau teuluol bychain yn gwneud pyst a dodrefn i’r ardd.
Rhagwelir y bydd cyfanswm cynhyrchiant pren yng Nghymru yn cynyddu’n sylweddol erbyn diwedd y degawd nesaf wrth i goedwigoedd aeddfedu. Bydd llawer o’r cynydd hwn yn dod o goetiroedd coniffer a blannwyd gan y sector preifat yn ystod y 1960au, 70au ac 80au. Bydd mwyafu gwerth y coedwigoedd hyn i’r economi yn dibynnu i raddau helaeth ar ymdrechion proseswyr pren ac ar dechnegau blaengar am brosesu’r pren hwn.
Fedrwch gael gafael ar fwy o wybodaeth ar dudalennau Cynaeafu a Marchnata Cymru.
