|
|
Coedwig gwyllt gwalch y pysgod
Aderyn mawr ysglyfaethus sy’n bwyta pysgod yw gwalch y pysgod. Buont yn nythu yn yr Alban ers 1959, ac maent yn dal i ledu i’r de. Yn y flwyddyn 2001, roedd yr aderyn yn nythu mewn dau le yn Lloegr - Bassenthwaithe yn Ardal y Llynnoedd a Rutland Water yn Swydd Gaerlŷr - am y tro cyntaf ers 150 mlynedd. Bydd gwalch y pysgod yn gwneud ei nyth mewn coeden agored ac felly gall dyn darfu arno.
Enw Gwalch y Pysgod (Pandion haliaetusatyrium)
Bywyd Cynefin Gall tiriogaeth gwalch y pysgod fod yn eithaf bach. Yn yr Alban, mae’r rhan fwyaf o’r nythod o leiaf 1km oddi wrth ei gilydd, ond mewn rhai o’u mannau bridio drwy’r byd, gall y nythod fod ychydig gannoedd o fetrau yn unig oddi wrth ei gilydd. Eu prif gynefin yw dyfroedd neu aberoedd helaeth, ond byddant yn pysgota mewn pyllau bach hefyd os oes pysgod addas ar gael. Byddant hefyd yn nythu ar gyrion coetiroedd neu mewn llennyrch lle ceir coeden farw. Maent hefyd yn barod i ddefnyddio nythod a wnaed ar eu cyfer gan gadwraethwyr mewn mannau addas.
Bridio Bydd yr adar yn dechrau bridio pan fyddant yn 3 i 5 oed. Bydd yr iâr yn dodwy rhwng 1 a 4 o wyau (anaml iawn y ceir 4), ond ni fydd un o’r wyau’n deor yn aml iawn.
Datblygiad Bydd yr aderyn yn magu 2 gyw fel rheol. Bydd y gweilch ifanc yn dod yn annibynnol pan fyddant tua 5-6 mis oed. Mae ymyrraeth dyn a bygythiadau eraill yn golygu y bydd llawer ohonynt yn marw cyn eu bod yn ddigon hen i fridio. Bydd gwalch y pysgod yn ymfudo o Brydain ym mis Awst a mis Medi, i Orllewin Affrica yn bennaf. Ymborth Y prif ymborth yw pysgod dŵr croyw a physgod y môr. Bygythiadau Nid oes gan walch y pysgod unrhyw elyn naturiol. Y prif fygythiadau yw ymyrraeth dyn â’r mannau nythu, dwyn wyau a saethu’r adar wrth iddynt fudo. Adnabod Mae gan yr oedolyn ben gwyn gyda choron fraith a streipen-lygad ddu. Mae rhannau uchaf yr aderyn yn lliw brown tywyll tra bo rhan isaf y corff yn wyn gyda marciau llwydfelyn ar ran uchaf y frest. Mae’r aderyn ifanc yn debyg iawn i’r oedolyn, ond bod rhannau uchaf y corff yn lliw brown goleuach ac ymylon y plu yn llwydfelyn golau. Sut y rheolwn ein coetiroedd Gan weithio mewn partneriaeth â’r RSPB a grwpiau astudio adar ysglyfaethus yr Alban, mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn darparu mannau nythu cuddiedig, boed yn nythod artiffisial neu naturiol.
Lle i weld gwalch y pysgod yng Nghymru
|

Oeddech chi'n gwybod Dim ond mewn 1 allan o 4 deif bydd gwalch y pysgod aeddfed yn llwyddo i ddal pysgodyn. Ystadegau bywyd Hyd: Gwrywod 56-59 cm, menywod 57-62 cm Pwysau: Gwrywod 1400 g, menywod 1600 g Lled yr adenydd: Gwrywod 1.5 m, menywod 1.6m Hyd oes: 20-25 mlynedd Niferoedd ym Mhrydain: tua 150 parau  Am fwy o wybodaeth
Safleoedd defnyddiol
|
 |