|
|
Coedwig gwyllt grugiar ddu
Mae’r rugiar ddu yn adnabyddus am arddangosiadau boreol y ceiliog. Bydd y ceiliogod duon yn ymgynnull mewn mannau agored yn y coed ac yn ceisio denu’r iâr drwy dorsythu gyda’u cynffon ar led â’u pen yn isel. Bydd yr adar yn ymweld â’r mannau paru drwy gydol y flwyddyn, ond maent yn fwyaf prysur yn y gwanwyn pan fydd yr ieir yn dod yno ac yn bridio gyda’r ceiliogod.
Enw Grugiar ddu (Tetrao tetrix)
Bywyd Cynefin Mae’r rugiar ddu i’w chael ar yr uwchdiroedd o Gymru i Ogledd yr Alban, ond bu gostyngiad o 28% yn ei dosbarthiad ers y 1970au. Fe’u ceir ar gyrion gweundiroedd, lle y mae’r gweundir yn cwrdd â thir pori bras a choetiroedd helyg, bedw a choed conifferaidd.
Bridio Yr iâr sy’n gyfrifol am ddeor a magu’r cywion. Bydd yn gwneud ei nyth ar y ddaear fel rheol, ond bydd ambell waith yn nythu yn isel mewn llwyn gan ddefnyddio hen nyth a wnaed gan rywogaeth arall o aderyn. Bydd fel rheol yn dodwy rhwng 8 a 10 o wyau o fis Mai ymlaen. Bydd yr wyau wedi deor ymhen tua 24 diwrnod.
Datblygiad Bydd yr adar yn gadael y nyth ychydig ddyddiau ar ôl iddynt ddeor, a byddant yn gallu hedfan yn fis oed. Nid oes gan y ceiliog unrhyw ran yn y gwaith o fagu’r cywion. Ymborth Mae’r rugiar ddu yn bwyta blagur a chyffion coed a llwyni, ynghyd ag aeron a hadau. Mae’r cywion ifanc yn bwyta pryfed. Bygythiadau Mae nifer y grugieir du wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r dirywiad hwn yn gysylltiedig â newidiadau mewn defnydd tir, megis pori dwys a gwella tir pori yn yr uwchdiroedd. Adnabod Aderyn du hardd yw’r ceiliog, ac mae ganddo grib coch a bôn-blu gwyn o dan ei gynffon. Mae tua’r un maint â iâr ddomestig. Mae’r iâr ychydig yn llai ac mae ganddi blu brith. Mae ganddi fariau brown golau ar ran uchaf ei chorff a bariau brown tywyllach ar y rhan isaf. Mae ganddi gynffon fer gyda fforch fechan ynddi, tua 41 cm o hyd. Sut y rheolwn ein coetiroedd Byddwn yn nodi’r coetiroedd hynny lle mae’r rugiar ddu i’w gweld ac yn sicrhau bod y cynlluniau coedwigaeth yn dilyn patrwm o dorri ac ailblannu coed er mwyn darparu cynefin addas a chyflenwad bwyd ar ei chyfer. Byddwn hefyd yn rheoli ein rhaglenni gwaith i sicrhau nad amharwn ar y safleoedd nythu yn ystod y tymor bridio. Rydym yn cydweithio’n agos ag amryw o bartneriaid, gan gynnwys yr RSPB, Ymddiriedolaeth Ornitholegol Prydain a Grwp Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (Grwp Llywio’r Rugiar Ddu) i sicrhau parhad yr aderyn.
Ble i weld y rugiar ddu yng Nghymru
|
Oeddech chi'n gwybod I ddenu cymar i’r mannau paru, mae’r ceiliogod yn galw galwad rhythmig a rhyfedd yn eiledu efo galwad fel tisian. Ystadegau bywyd Hyd: gwrywod xx cm, menywod (yn cynnwys y cynffon) xx cm Pwysau: gwrywod xx, menywod xx Oes: x mlwydd Niferoedd ym Mhrydain: 6,500 gwrywod yn arddangos Am fwy o wybodaeth
Safleoedd defnyddiol
|
 |