Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Prydain Fawr

Glöyn ffridd fawr

Ym Mhrydain mae’r gloyn ffridd mawr yn Rhywogaeth o Bryder Cadwraethol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu gostyngiad mawr yn ei niferoedd drwy Gymru a Lloegr. Y prif gadarnle yn Lloegr yw Northumberland, lle mae 156 o safleoedd wedi’u cofnodi, sef 74% o’r cyfanswm ar gyfer Cymru a Lloegr.

Enw

Gloyn ffridd mawr (Coenonympha tullia)

Bywyd

Cynefin

Mae’r gloyn ffridd mawr yn byw mewn cymunedau gweddol sefydlog ac anaml y bydd yn gadael y corsydd, ei hoff gynefin. Mae’r rhywogaeth i’w chael yma ac acw yng Nghymru, gogledd Lloegr a de’r Alban, ond mae’n fwy cyffredin o lawer yng ngogledd yr Alban

Bridio

Bydd y gloyn ffridd mawr yn bridio mewn cyforgorsydd iseldirol, gorgorsydd uwchdirol a gweundiroedd asidaidd llaith, lle mae digonedd o fwyd.

Datblygiad

Mae’r lindys yn cysgu drwy’r gaeaf ac yn deor (chwileru) yn y gwanwyn. Bydd yr ieir bach yr haf aeddfed yn hedfan rhwng mis Mehefin a dechrau mis Awst.

Ymborth

Bwyd y lindys yw’r plu gweunydd unben. Mae’r ieir bach yr haf yn sugno neithdar o flodau’r grug deilgroes.

Bygythiadau

Mae mwy a mwy o gynefinoedd gweundir gwlyb a chorstir yn cael eu colli o ganlyniad i gloddio am fawn, plannu coed, draeniad a gwelliannau amaethyddol. Dibynna’r gloyn ffridd mawr ar y math hwn o gynefin ac o ganlyniad mae mewn sefyllfa fregus iawn. Hefyd mae pori trwm gan ddefaid yn cael effaith ar ardaloedd bridio’r glöyn.

Adnabod

Lliw orenfrown pyglyd sydd gan y gloyn ffridd mawr, gyda smotiau tywyll ar yr adenydd uchaf ac isaf.

Sut y rheolwn ein coetiroedd

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth, gan weithio mewn partneriaeth â Chadwraeth Glöynnod, yn sicrhau bod y poblogaethau presennol o’r gloyn ffridd mawr yn cael eu diogelu drwy reolaeth sensitif a gwarchod corstiroedd. Yng Nghoedwig Kielder, Northumberland, mae ardaloedd eang o gorstir yn cael eu hadfer drwy glirio coed conifferaidd ar raddfa fawr. Bydd hyn yn creu mwy o gynefin o ansawdd gwell i’r glöyn.

 

Beth sydd o ddiddordeb

Mae’r niferoedd o Loyn Ffridd Fawr i’w ddarganfod yn corsydd a gweundiroedd yn darparu gwybodaeth am ansawdd y cynefinoedd yma.

Safleoedd defnyddiol