Aderyn enfawr yw hwn gydag adenydd llydan sydd hyd at 245 cm (dros 8 troedfedd) ar draws. Darfu eryr cynffonwyn neu eryrod y môr ym Mhrydain ar ddechrau’r 1900au ac, er gwaethaf cynllun maith i’w hail gyflwyno, nifer fach ohonynt sydd yn yr Alban o hyd. Mae’r gwaith o’u hail gyflwyno wedi cael ei lesteirio gan ladron wyau. Mae hyn wedi arwain at gynlluniau lleol, megis hwnnw ar Ynys Mull, i helpu gwarchod nythod yr eryrod.
Enw
Eryr y môr (Halieetus albicilla)
Bywyd
Cynefin
Mae’r boblogaeth fach o eryrod y môr ym Mhrydain i’w chael ar ucheldiroedd ac ynysoedd gorllewinol yr Alban yn unig. Mae’n well ganddynt lynnoedd neu gulforoedd cysgodol na safleoedd arfordirol agored. Hefyd mae’n well ganddynt nythu mewn coed nag ar glogwyni. Ar gyfartaledd, mae eu tiriogaethau’n amrywio o 30 i 70 km2, ond gall y diriogaeth fod yn llawer mwy gan ddibynnu ar faint o ysglyfaeth sydd ar gael. Nid yw eryrod môr Prydain yn mudo. Bydd yr oedolion yn aros yn agos at eu tiriogaeth fridio drwy gydol y flwyddyn. Gall adar nad ydynt yn bridio fynd yn weddol bell i gael digon i’w fwyta.
Bridio
O’u cymharu ag adar llai â hyd oes byrrach, nid yw eryrod y môr yn cynhyrchu llawer o epil; dyma un o’r ffactorau sydd wedi cyfrannu at dwf araf y boblogaeth. Byddant fel rheol yn bridio yn 5 i 6 oed. Yn yr Alban bydd y parau’n treulio’r gaeaf yn caru ac yn adeiladu’r nyth, a dodwyir yr wyau ym mis Mawrth. Dodwyir 1 i 2 wy fel rheol ac mae’r iâr yn eistedd arnynt am oddeutu 38 diwrnod. Ceir enghreifftiau prin o 3 chyw yn cael eu magu’n llwyddiannus.
Datblygiad
Bydd y cywion yn aros yn eu nythod am 10 i 13 wythnos tra’n magu plu. Er y gallant ofalu amdanynt hwy eu hunain oddeutu 30 diwrnod ar ôl gadael y nyth, byddant yn parhau i gardota am fwyd gan eu rhieni am sawl mis. Yna bydd yr eryrod ifanc yn treulio rhyw 5 mlynedd mewn ardaloedd lle nad yw eryrod môr eraill yn bridio, yn aml yng nghwmni eryrod ifanc eraill. Yn gyffredinol ni fydd oddeutu 60% i 70% o adar ysglyfaethus ifanc yn goroesi’r gaeaf cyntaf. Mae’n debyg bod y ffigur hwn yn is o lawer yn achos adar ysglyfaethus mawr megis eryr y môr, er bod y gaeaf cyntaf yn frwydr galed iddynt hwythau hefyd. Os goroesant y flwyddyn gyntaf, gallant fyw am 20 mlynedd neu ragor.
Ymborth
Pysgod, adar môr a hwyaid yw prif ysglyfaeth yr eryr môr. Wrth hela am bysgod, mae’n well ganddo wylio o glwyd addas ac yna blymio i gipio’r pysgodyn heb wlychu. Bydd yr eryrod yn bwyta anifeiliaid marw hefyd, gan chwilio’r arfordir am bysgod sydd wedi cael eu golchi i’r lan a byddant yn aml yn dwyn bwyd adar eraill, megis gweilch y pysgod, ac anifeiliaid, megis dyfrgwn.
Bygythiadau
Nid oes gan eryrod môr unrhyw ysglyfaethwyr naturiol ym Mhrydain. Yr unig fygythiad i’r ymdrechion i ailsefydlu’r aderyn yn yr Alban yw gweithgareddau dyn - gadael gwenwyn a dwyn wyau - a dirywiad cynefinoedd a ffynonellau bwyd.
Adnabod
Mae’r oedolyn yn sefyll allan oherwydd ei faint anferth, ei ben llwydfelyn gweddol fawr, ei big enfawr a’i gynffon wen, fer, siâp lletem. Mae eryrod ifanc sydd newydd fagu plu yn llawer tywyllach, ac mae’n cymryd 5 i 6 blynedd iddynt dyfu plu’r oedolyn. Mae eryr y môr yn swnllyd iawn ac mae’n galw’n llawer amlach na’r eryr euraid. Mae’r alwad hanner ffordd rhwng cyfarth ac ielpan, ac o ystyried mor fawreddog yw’r aderyn mae’n swnio braidd yn rhyfedd.
Sut y rheolwn ein coetiroedd
Rydym yn gweithio’n agos â’n partneriaid, gan gynnwys Scottish Natural Heritage, yr RSPB a grwpiau lleol, i ddod o hyd i ardaloedd o goedwig sy’n rhan o diriogaeth eryrod penodol. Yna rheolwn y goedwig i osgoi tarfu ar safleoedd nythu. Rydym hefyd yn darparu cyfleusterau gwylio i alluogi pobl i weld yr aderyn ysblennydd hwn.
