|
|
Coedwig gwyllt eryr aur
Aderyn ysglyfaethus mawr iawn gyda lled adenydd o dros 2 fetr yw’r eryr euraid. Ym Mhrydain, mae bron pob eryr euraid sy’n bridio yn byw yn yr Alban, lle ceir ardaloedd agored heb goed i lawr at lefel y môr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi helpu i ailsefydlu’r aderyn yn Iwerddon.
Enw Yr eryr aur (Aquila chrysaëtos)
Bywyd
Cynefin Mae’n well gan yr eryr aur ardaloedd agored heb goed na choetiroedd iseldirol. Oherwydd yr hinsawdd yng ngorllewin yr Alban mae’r amodau uwchdirol hyn i’w cael i lawr hyd at lefel y môr, ac mae eryrod aur i’w canfod yno ar uchder is nag yng nghanolbarth yr Alban. Nid yw’r eryrod aur yn hoffi ymyrraeth dyn, a byddant yn gwneud eu nythod mewn mannau unig ac anhygyrch. Mae eu tiriogaeth yn amrywio o 5 i 150 km2. Mewn rhai ardaloedd o’r Alban, mae’r dwysedd bridio ymhlith yr uchaf yn y byd, ac mae tiriogaeth yr aderyn yn fach iawn. Ni fydd eryrod euraid yr Alban yn mudo, a byddant yn aros yn eu mannau bridio drwy gydol y flwyddyn. Bydd eryrod ifanc ac eryrod nad ydynt yn bridio yn osgoi tiriogaeth eryrod eraill wrth chwilio am fannau bridio addas.
Bridio Mae’n cymryd rhai blynyddoedd i’r eryr aur gyrraedd ei lawn twf, ac ni fydd yn dechrau bridio hyd nes ei fod yn 4 i 5 oed. Mae’r tymor bridio yn parhau drwy’r flwyddyn gyfan bron. Bydd yr iâr yn dodwy 1 i 3 o wyau rhwng dechrau a chanol Ebrill ac yn eistedd arnynt am tua 43 o ddyddiau.
Datblygiad Ar ôl iddynt ddeor, bydd y cywion yn aros yn y nyth am 9 i 11 wythnos cyn hedfan am y tro cyntaf. Fel rheol, dim ond un cyw a fydd yn goroesi ac yn gadael y nyth. Nid ydym yn deall yn iawn beth yw’r rheswm am hyn, ai diffyg bwyd ynteu cystadleuaeth rhwng y cywion ifanc. Bydd yr adar ifanc yn aros ar diriogaeth eu rhieni ym misoedd cyntaf y gaeaf, ac yn gofyn am fwyd cyhyd ag y bydd y rhieni yn barod i’w bwydo. Yn gyffredinol ni fydd oddeutu 60% i 70% o adar ysglyfaethus ifanc yn goroesi’r gaeaf cyntaf. Mae’n debyg bod y ffigur hwn yn is o lawer yn achos adar ysglyfaethus mawr megis yr eryr aur, er bod y gaeaf cyntaf yn frwydr galed iddynt hwythau hefyd. Os goroesant y flwyddyn gyntaf, gallant fyw am 20 mlynedd neu ragor.
Ymborth Bydd yr eryr aur yn bwyta unrhyw ysglyfaeth sydd ar gael, yn amrywio o adar bach i nadredd. Hoff ymborth eryrod yr Alban yw ysgyfarnogod a grugieir, a chwningod ambell waith. Mewn ardaloedd arfordirol, mae’n well ganddynt adar drycin y graig (fulmars) na gwylanod.
Bygythiadau Nid oes gan yr eryr aur unrhyw elyn naturiol. Y prif fygythiad yw gweithgaredd dyn, a bydd llawer o eryrod aur sy’n crwydro ar hyd rhostiroedd y grugieir yn nwyrain a de’r Alban yn cael eu gwenwyno neu eu saethu. Oherwydd ansawdd gwael y cynefin, mae’n annhebyg y bydd pâr o eryrod aur yn gallu bridio’n llwyddiannus hyd yn oed os llwyddant i oroesi.
Adnabod Gellir adnabod eryrod aur sydd wedi tyfu i’w llawn twf oddi wrth y plu brown euraid golau ar eu pen, eu gwddf a’u hysgwyddau. Mae’r plu ar eu corff yn lliw brown canolig gyda britho ysgafnach. Mae gan yr eryr aur ben llai a chynffon hwy nag eryr y môr (white-tailed eagle), ac mae’r rhain yn nodweddion amlwg wrth iddo hedfan. Mae gan eryrod aur ifanc blu brown tywyll lliw siocled ac mae marciau gwyn amlwg ar eu hadenydd a rhan uchaf y gynffon. Gall gymryd hyd at 6 blynedd i’r eryr ifanc gael plu o’r un lliw â’r eryr aeddfed. Anaml y clywir cri yr eryr aur, ac ni fydd yr eryr llawn twf yn galw fel rheol oni bai fod rhywbeth wedi aflonyddu arno. Bydd yr eryrod ifanc llwglyd yn gwneud sŵn ‘yip-yip’ uchel y gellir ei glywed o gryn bellter. Sut y rheolwn ein coetiroedd Yn y gorffennol, pan fyddai gormod o goed yn cael eu plannu yn nhiriogaeth yr eryr aur, ni fyddai ganddynt fawr o obaith o fridio’n llwyddiannus. Erbyn heddiw, pan fyddwn yn torri coed, neu yn plannu coed mewn ardaloedd newydd, byddwn yn cadw mewn cof bod angen mannau agored ar yr eryr aur i hela ei ysglyfaeth. Byddwn hefyd, wrth gyflawni ein gwaith, yn sicrhau bod ardaloedd gwaharddedig o amgylch nythod yr eryrod aur. Rydym yn gweithio’n agos ag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Scottish Natural Heritage a’r RSPB, i sicrhau parhad yr aderyn.
Lle i weld eryr aur yng Nghymru
|

Oeddech chi'n gwybod Mae gan yr eryr aur dros 2,000 o blu, yn amrywio o fanblu sy’n ei gadw’n gynnes i blu mawr llydan sy’n ei helpu i hedfan. 
Ystadegau bywyd Hyd: 75 - 90 cm Pwysau: 3 - 6 kg
Lled yr adenydd: 190 - 230 cm Hyd oes: hyd at 30 mlynedd yn y gwyllt Niferoedd ym Mhrydain: 425 pâr. Am fwy o wybodaeth
Safleoedd defnyddiol
|
 |