|
|
Coedwig gwyllt ehedydd y coed
Gall cael gafael yn ehedydd y coed mewn cynefinoedd sy’n addas yn y rhan fwyaf o Loegr i’r de o’r Humber. Yn y ganrif ddiwethaf fe fu cyfyngiad enbyd yn eu hamrywiaeth i rai safleoedd yn Nyfnaint, Dorset, Hampshire, Surrey, Breckland a Suffolk. Ond mae’r ehedydd y coed yn ailwladychu’n bwyllog ac mae y rhan fwyaf o’u cyn-ardaloedd a’u rhifau yn cynyddu unwaith eto. Yn awr mae mwy na 50% o’r boblogaeth yn nythu mewn planhigfeydd coedwigaeth.
Enw Ehedydd y coed (Lullula arborea)
Bywyd
Cynefin Cydnabuwyd ers blynyddoedd lawer mai rhostir iseldirol yw cynefin naturiol ehedydd y coed. Mae’n well ganddo ardaloedd gyda llystyfiant byr ac agored, gydag ambell goeden dal lle gall glwydo i ganu. Serch hynny, yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, daethpwyd i sylweddoli fod yr aderyn yn hoffi coedwigoedd hefyd, gan nythu ar safleoedd sydd wedi cael eu torri a’u clirio ac mewn planhigfeydd ifanc hyd nes bod y coed oddeutu 7 oed. Mae’r ‘rhostiroedd’ newydd hyn yn darparu llecynnau da ar gyfer adeiladu nythod, digon o glwydi a chyflenwad toreithiog o fwyd.
Bridio Bydd ehedyddion y coed yn dechrau bridio yn flwydd oed. Byddant yn cael dwy nythaid, o 4 wy yr un fel rheol, yn ystod y tymor bridio rhwng diwedd mis Chwefror a dechrau mis Awst.
Datblygiad Mae’r cywion yn hollol annibynnol ymhen 3 wythnos ar ôl magu plu. Bydd rhai adar yn aros yn ystod y gaeaf, gan ddefnyddio cynefinoedd megis sofl cnydau grawnfwyd. Ymborth Yn ystod y tymor bridio mae ehedydd y coed yn bwyta pryfed, pryfed cop a larfâu sydd i’w cael ar rannau isaf planhigion uchel. Maent hwy’n bwyta hadau bach yn y gaeaf. Bygythiadau Fel llawer o adar sy’n nythu ar y ddaear, prif ysglyfaethwyr ehedydd y coed yw mamolion megis y llwynog a’r carlwm, ac adar megis brain a phiod. Er bod y rhain yn dwyn rhai wyau a chywion, nid ydynt yn fygythiad difrifol i boblogaeth sy’n bridio’n dda. Y prif fygythiad i’r rhywogaeth yw colli cynefinoedd o ganlyniad i newidiadau mewn arferion coedwigo nad ydynt yn cymryd i ystyriaeth bwysigrwydd torri a chlirio coed ac ailblannu. Adnabod Wrth hedfan, mae ehedydd y coed i’w weld yn llai na’r ehedydd, ac mae ei adenydd a’i gynffon cryn dipyn yn fyrrach. Ar y ddaear, mae’n edrych yn fwy tew a chryno. Mae’r marciau gwyn uwchben y llygaid yn cyfarfod ar y gwar, ac mae marciau du a gwyn ar ymylon blaen yr adenydd. Mae cân y ceiliog yn fwy cylchol na chân yr ehedydd. Y ceiliog yw un o’r adar cân mwyaf persain ym Mhrydain, gyda’i gân lifeiriol ddisgynnol sy’n swnio fel ffliwt. Sut y rheolwn ein coetiroedd Gyda chymorth adarwyr brwd lleol, a chan weithio’n agos â’n partneriaid, megis yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Ornitholegol Prydain, mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn darganfod coedwigoedd lle mae ehedydd y coed yn nythu ac yn sicrhau bod y cynlluniau ar gyfer y coedwigoedd hyn yn dilyn patrwm o dorri a chlirio coed ac ailblannu, i sicrhau bod cynefin addas a chyflenwad bwyd bob amser ar gael. Mae Coedwigoedd Tunstall, Rendlesham a Thetford yn East Anglia wedi cael eu dynodi’n Ardaloedd Gwarchod Arbennig ar gyfer ehedydd y coed.
Lle i weld ehedydd y coed yng Nghymru
|
Oeddech chi'n gwybod modrwyo gan ddefnyddio modrwyau tri lliw arbennig. Gofynnir i unrhyw un sy’n gweld aderyn â modrwy gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Ornitholegol neu e-bostio Ron.Hoblyn mor fuan â phosibl. Ystadegau bywyd Hyd: 13 cm Lled yr adenydd: 27 - 30 cm Hyd oes: 4 - 6 blynedd Niferoedd ym Mhrydain: tua 1,550 o geiliogod yn canu (cyfrifiad cenedlaethol 1997). Am fwy o wybodaeth
Safleoedd defnyddiol
|
 |