Beth yw cors mynydd-dir?
Enw arall am fawnogydd neu fawndiroedd yw corsydd mynydd-dir.
Ym Mhrydain maent hwy i’w cael mewn rhanbarthau llaith megis gogledd-orllewin Lloegr, iseldiroedd canolbarth a gogledd-ddwyrain yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Ceir gweddillion corsydd mynydd-dir yng Ngwlad yr Haf, de Swydd Efrog a’r Ffendir hefyd.
Pa fathau o gors mynydd-dir sydd?
Mae dau fath: gorgors (mignen) a chyforgors (siglen)
Gorgors
Mae’n fwyaf cyffredin yng ngorllewin a gogledd Prydain lle ceir y tywydd gwlypaf, ond mae i’w chael hefyd mewn ardaloedd uwchdirol yn y dwyrain. Mae gorgorsydd yn crynhoi gan fod defnydd planhigol yn pydru’n araf iawn ar dir sy’n llawn dŵr. Gallant guddio tirweddau cyfan ac nid ydynt wedi’u cyfyngu i ardaloedd lle mae’r draeniad yn wael. Mae astudiaethau’n awgrymu i orgorsydd ddechrau datblygu 5000-6000 o flynyddoedd yn ôl.
Cyforgors
Mae cyforgors yn datblygu wrth i fawn ffurfio ar arwynebau moel. Wrth i’r mawn grynhoi, mae dylanwad y dw^r daear yn lleihau nes bod y gors yn cael ei dyfrhau’n gyfan gwbl gan law. Gelwir y math hwn o ecosystem yn gors ‘ombrotroffig’ (wedi’i phorthi gan law).
Faint o gors mynydd-dir sydd ym Mhrydain?
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn rheoli cyfanswm o 124,000 hectar o orgors, a geir yn yr Alban yn bennaf. Mae gorgorsydd uwchdirol, fel cyforgorsydd iseldirol, yn cael eu diogelu bellach fel Ardaloedd Arbennig ar gyfer Cadwraeth.
Pa rywogaethau sy’n byw ar gorsydd mynydd-dirol?
Mae cyforgorsydd mynydd-dir yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid. Rhai rhywogaethau pwysig o blanhigion yw llus yr arth (Artostaphylos uva-ursi), corfedwen (Betula nana), llygaeron (Vaccinium spp), gwlithlys (Drosera spp) a migwyn (Sphagnum spp).
Mae llawer o geirw coch yn byw ar y mawndiroedd uwchdirol ac mae ymylon y mawndiroedd hyn yn gynefin pwysig i’r gath wyllt. Yn ogystal ceir pyllau sy’n gynefin amhrisiadwy i ddyfrgwn.
Hefyd mae mawndiroedd yn diroedd bridio pwysig i adar rhydio megis y cwtiad aur, pibydd y mawn a’r pibydd coeswyrdd. Adar eraill sy’n eu defnyddio yw’r fôr-hwyaden ddu, y gylfinir, y gïach cyffredin a’r pibydd coesgoch. Rhai adar ysglyfaethus yw’r cudyll bach, y boda tinwyn, y dylluan glustiog a’r eryr euraid.
Mae cyforgorsydd yn gartref i infertebratau prin a lleol, er enghraifft, y gweundir mawr (Coenonympha tullia), criciedyn hirgorn y gors (Metrioptera brachyptera) a chwilen bilsen y gors (Curimopsisi nigrita).
Mae’r haenau o fawn hefyd yn diogelu cofnod unigryw ac amhrisiadwy o weddillion planhigion ac anifeiliaid y gallwn ei ddefnyddio i olrhain newidiadau hanesyddol mewn llystyfiant a hinsawdd, a defnydd tir dynol.
Bygythiadau i gorsydd mynydd-dirol
Defnyddiwyd mawnogydd ers canrifoedd i dorri mawn i’w ddefnyddio fel tanwydd. Ar ôl ei dorri, gadewir i’r tywyrch sychu mewn ‘teiriau’ (tywyrch wedi’u codi ar siâp wig-wam) cyn mynd â hwy adref i’w storio a’u llosgi. Ychydig o bobl sy’n torri mawn bellach gan fod tanwyddau eraill megis olew a nwy yn llawer mwy cyfleus.
Y prif fygythiadau i gyforgorsydd mynydd-dir heddiw yw draeniad, pori trwm gan geirw a defaid, llosgi, a chloddio am fawn.
Sut y rheolwn ein coetiroedd
Lluniwyd cynllun rheoli arbennig ar gyfer pob mawnog sydd wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Mae’r cynlluniau hyn yn amlinellu’r camau i’w cymryd i ddiogelu a gwella’r cynefin. Mae gweithgareddau’n cynnwys agor draeniau, lleihau pori, a thorri coed lle gallent effeithio ar hydroleg y mawndir.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid megis Comisiwn Ceirw yr Alban, Cronfeydd LIFE a Datblygu Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd, y Millenium Forest for Scotland Trust, Plantlife, RSPB, a Scottish Natural Heritage, a chyda chwmnïau menter lleol, cymunedau lleol ac ystadau cyfagos, i gasglu gwybodaeth am gyflwr y cynefin ac i’w adfer i statws ffafriol.
