Beth yw Cors yr Iseldir?
Mae cors yr iseldir yn fawnogydd sydd wedi datblygu mewn mannau fel aberoedd a dyffrynnoedd neu bantau topograffig eraill. Mae traeniad gwael yn arwain at orlenwi’r tir â dŵr. Yna ffurfir mawn, gan fod diffyg ocsigen yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Bydd ymgasgliad parhaus y mawn yn codi’r arwyneb uwchben y tir o gwmpas i ffurfio llun cromen nodweddiadol - y ‘siglen’ neu’r ‘gyforgors’.
Faint o gynefinoedd cors sydd ym Mhrydain?
Ceir 13,000 hectar o gors sydd o ddiddordeb cadwraethol. Mae tua 3,400 hectar ar dir a reolir gan y Comisiwn Coedwigaeth. Mae’r rhan fwyaf o hyn yn yr Alban, yn bennaf yn y De-Orllewin yn ardaloedd Meryn Rheged a Galowe, ac yn y Gogledd Ddwyrain ym Moray a Swydd Aberdeen.
Pa rywogaethau sydd yn byw ar gorsydd?
Gan eu bod yn uwch na’r tir o gwmpas, yr unig ddŵr y bydd cors yn ei gael yw dŵr glaw. Mae hyn yn golygu eu bod o natur asidaidd iawn, gan gynnal planhigion arbenigol yn unig sydd yn gallu goroesi o ffrwythlondeb isel.
Y planhigion mwyaf cyffredin yw’r migwyni, sef blociau adeiladu’r mawn. Mae nifer o blanhigion, fel y Gwlithlys Mawr, yn gwneud iawn am y diffyg maetholion yn y cors trwy fwyta trychfilod. Rhosmari gwyllt a Cheirios y Wern yw planhigion arbenigol eraill y siglen.
Fel sydd yn wir am y planhigion, mae llawer o’r trychfilod sydd yn byw ar gorsydd yn arbenigwyr, rhai ohonynt yn eithaf brin ym Mhrydain, yn eu plith Eilir Mawr y Ffridd, Cricsyn Hirgorn y Gors a Phryf Pelen y Gors.
Bygythiadau i gors yr iseldir.
Y bygythiad unigol mwyaf i gors yr iseldir yw torri mawn ar raddfa fawr. Ond gall llawer o ffactorau eraill arwain at ddirywiad corsydd a’u dinistriad yn y pendraw. Maent yn cynnwys gwelliannau amaethyddol, traeniad lleol a rhanbarthol, plannu coed, gorbori, datblygiadau adeiladu a llygredd yr awyr.
Sut y byddwn yn rheoli’n coetiroedd.
Mae corsydd yr iseldir yn gynefinoedd gwerthfawr i’w gwarchod gan iddynt gynnal planhigion ac anifeiliaid prin, ac mae’n bosibl bod llawer o wybodaeth hanesyddol wedi’i cloi yn y mawn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, English Nature a Threftadaeth Natur yr Alban i rannu ac i weithredu prosiectau adfer.
Ymhlith y gweithredu a all warchod corsydd yr iseldir yw cyfyngu maint y mawn a dynnir allan, a defnyddio pethau amgen fel coir ac asglod rhisgl; cau ffosydd ac ail-wlychu mannau a draeniwyd er mwyn caniatáu ail-gychwyniad y broses o greu mawn ac ymlediad trychfilod i’r mannau o fawn newydd; a thynnu allan unrhyw goed a blannwyd ar y corsydd.

