|
|
Ynglın â’r comisiwn coedwigaeth
Y Comisiwn Coedwigaeth yw’r Adran Lywodraethol sydd yn gyfrifol am goedwigaeth ledled Prydain. Mae ganddo Fwrdd o Gomisiynwyr gyda dyletswyddau a phwerau a ragnodir gan statud, ac maent yn gweithredu’r rhain ar wahân yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn dilyn Datganoli. Mae gan y Bwrdd Gadeirydd o hyd at ddeg o Gomisiynwyr Coedwigaeth eraill a benodir gan y Frenhines ar argymhelliad Gweinidogion. Mae’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yn cyfeirio gweithgareddau’r Comisiynwyr yn Lloegr, ac ar ôl ymgynghori a Gweinidogion yr Alban, Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon, yn cynrychioli buddiannau coedwigaethol y Deyrnas Unedig o fewn yr Undeb Ewropeaidd a’r byd y tu hwnt. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion yr Alban yn cyfeirio gweithgareddau’r Comisiynwyr yng Nghymru ac yn yr Alban. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am gynghori Gweinidogion ac am weithredu polisi coedwigaeth gwahanol ac unigryw y gwledydd unigol. Ariennir ar wahân ym mhob un o’r gwledydd ac o 1999 2000 bydd yn cynhyrchu Adroddiadau Blynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ac i’r ddwy Senedd a fydd yn cynnwys y datganiadau ariannol perthnasol a’r cyfrifon am y flwyddyn. Ein cennad yw: Diogelu ac ehangu coedwigoedd a choetiroedd Prydain a chynyddu eu gwerth i’r gymdeithas ac i’r amgylchedd Ein hamcanion yw: - Diogelu coedwigoedd a choetiroedd Prydain
- Ehangu arwynebedd coedwig Prydain
- Mwyhau gwerth economaidd ein hadnoddau coedwig
- Diogelu a gwella bioamrywiaeth, tirwedd a threftadaeth diwylliannol ein coedwigoedd a choetiroedd.
- Datblygu cyfleoedd am hamdden coetirol
- Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd a chyfranogiad cymunedol mewn coedwigaeth
Mae gan y Comisiwn Coedwigaeth ddwy asiantaeth gweithredol, Menter Coedwigaeth (a lawnsiwyd ar 1 Ebrill 1996) ac Ymchwil Goedwig ( a lawnsiwyd ar 1 Ebrill 1997), sydd yn gweithio i dargedau a osodir gan Gomisiynwyr a Gweinidogion. - Mae Menter Coedwigaeth yn gyfrifol am reoli 800,000 hectar o goedwigoedd a choetiroedd ym mherchnogaeth y genedl. Ei nod yw cyflawni buddion aml-bwrpas trwy reolaeth effeithiol a chynaliadwy’r ystâd goedwig gyhoeddus.
- Nod Ymchwil Goedwig yw cyflwyno ymchwil ac arolygon gwyddonol o ansawdd uchel, hysbysu datblygiad polisïau ac arferion coedwigaeth a hyrwyddo safonau uchel o reolaeth goedwig gynaliadwy.
Fel rhan o Arolwg Gwariant 2000 mae gan y Comisiwn Coedwigaeth Gytundeb Cyflawni Gwasanaethau sydd yn nodi ei dargedau am 2001-02, 2002-03 a 2003-04 am ei weithgareddau yn Lloegr ac yn ei orchwyl Prydeinig ehangach. Y Strategaeth Buddsoddi Arannau yw’r rheswm y tu ôl i fuddsoddiad y Comisiwn mewn coedwigoedd a’r dulliau a ddilynir er mwyn sicrhau iddynt gael eu rheoli’n effeithlon ac yn effeithiol. | Fel rhan o’r fenter hon, mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi datblygu’r canlynol hefyd: |  | | Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gweithredu Dulliau Gweithredu ‘Llywodraeth Agored’ – ar Fynediad i Wybodaeth Lywodraethol. Cynhwysir mentrau penodol gan y Comisiwn Coedwigaeth yn y safle hwn.
|
|
 |
 |