Mae ceiliog y coed tua’r un maint â thwrci ac mae’n byw mewn coetiroedd pinwydd yr Alban yng ngogledd yr Alban. Diflannodd yr aderyn o Brydain ym 1785, ond fe’i hailgyflwynwyd ar wahanol adegau o 1837 ymlaen. Mae’r ceiliog yn adnabyddus am y synau rhyfedd mae’n eu gwneud - rhyw glician, llyncu a sŵn hogi llif - wrth ei ddangos ei hun i geisio denu cymar mewn mannau paru yn y coed.
Enw
Ceiliog y coed (Terao urogallus)
Bywyd
Cynefin
Yn y gwanwyn, bydd y ceiliogod yn ymgynnull mewn mannau paru, ac yn torsythu ac ystumio a gwneud synau rhyfedd i gadw eu statws ymhlith y ceiliogod eraill. O bryd i’w gilydd, bydd yr arddangosiadau hyn yn arwain at ymladd ffyrnig a bydd rhai ceiliogod yn cael eu brifo. Bydd yr ieir yn ymweld â’r mannau paru ac yn paru gyda’r ceiliog o’u dewis. Yna byddant yn nythu ac yn magu’r cywion heb unrhyw gymorth gan y ceiliog.
Bridio
Bydd ceiliog y coed yn cuddio ei nyth yn y grug neu mewn gwreiddiau coeden. Bydd yr iâr yn dodwy rhwng 5 ac 8 o wyau, a byddant yn cymryd 29 diwrnod i ddeor.
Datblygiad
Bydd yr adar ifanc yn gadael y nyth pan yn llai na diwrnod oed, er y bydd yr iâr yn dal i gynnig cysgod iddynt rhag y tywydd ac yn eu gwarchod rhag ysglyfaethwyr.
Ymborth
Bydd yr oedolion yn bwyta blagur a chyffion coed conifferaidd ac amrywiaeth eang o aeron. Bydd y cywion ifanc yn bwyta pryfed y deuant o hyd iddynt yn y llystyfiant ar y ddaear.
Bygythiadau
Y prif fygythiad i ceiliog y coed yw bridio gwael oherwydd newidiadau ym mhatrwm y tywydd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfnodau hir o dywydd oer yn y gwanwyn yn golygu nad yw’r iâr yn cael digon o fwyd i fod mewn cyflwr i baru. Mae hafau gwlyb yn oeri’r cywion sydd eisoes yn ymdrechu i gael digon o fwyd i dyfu’n oedolion mewn un haf byr.
I ychwanegu at y pwysau ar yr adar, bydd llwynogod yn lladd cywion a ieir sy’n nythu, a bydd brain yn dwyn nytheidiau o wyau. Mae nifer ceiliog y coed yn beryglus o isel erbyn hyn, ac nid yw’r adar sy’n bridio yn gallu cynnal y boblogaeth. Felly, mae’n bwysig iawn lleihau nifer yr adar sy’n cael eu lladd drwy fwrw yn erbyn ffensys ceirw.
Adnabod
Mae’r ceiliog yn aderyn mawr a gellir gweld ei silwét du wrth iddo hedfan o frigau uchaf pinwydd yr Alban. Prin y gellir ei gamgymryd am aderyn arall. Mae modd cymysgu rhwng iâr ceiliog y coed ac iâr y rugiar ddu, ac mae’r ddwy yn rhannu’r un cynefin. Mae iâr ceiliog y coed yn fwy na iâr y rugiar ddu; mae ganddi glwt coch rhydlyd ar ei bron ac mae ei chynffon yn hwy ac yn fwy crwn na chynffon y rugiar ddu.
Sut y rheolwn ein coetiroedd
Rydym yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys yr RSPB a Grŵp Bioamrywiaeth yr Alban (Grŵp Llywio Grugiar y Coed) i warchod ceiliog y coed. Yn 2001, cafwyd arian gan Lywodraeth yr Alban i gael gwared â ffensys ceirw diangen ac i farcio ffensys ceirw eraill. Mae prosiect LIFE 2002 Ewropeaidd (Partneriaeth Caledonia) a ariennir gan yr UE yn helpu grugieir y coed drwy reoli ysglyfaethwyr, a thrwy reoli a monitro llystyfiant. Hefyd, mae polisïau rheoli datblygol yn helpu i ledaenu’r arferion gorau.

