Y carw coch yw anifail tir mwyaf ei faint ym Mhrydain. Maent yn fwyaf niferus yn yr Alban, ond ceir poblogaethau unig o Lynnoedd Cymbria i Gernyw, gyda nifer o breiddiau bychain yng Nghymru. Mae cig ceirw o geirw cochion yng nghoetiroedd y Comisiwn Coedwigaeth yn boblogaidd iawn gyda defnyddwyr ym Mhrydain. Mae llai o golesterol a saim mewn cig ceirw o geirw cochion nac mewn mathau eraill o gig coch, a ni chaiff ceirw sydd yn byw yn y coetiroedd unrhyw fwyd gwneud.
Enw
Carw coch (Cervus elaphus)
Ffordd o fyw
Cynefin
Yn wreiddiol roedd ceirw cochion yn byw ar ymyl y coed, ond mae’r lleihad sylweddol yng ngorchudd y coed ym Mhrydain dros y canrifoedd wedi eu gorfodi i ymaddasu i fywyd ar y llethrau agored.
Bridio
Mae ewigod (benywod) y carw coch mewn coetiroedd yn gallu bridio’n 16 mis oed. Mae’n bosibl na fydd ceirw llai o faint ar y llethrau’n cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol nes y byddant yn 2 i 3 blwydd oed. Mae’r tymor bridio, y rhidio neu’r Hydref, yn dechrau yng nghanol mis Medi gan barhau tan yn hwyr ym mis Hydref. Fel arfer bydd yr ewig yn esgor ar elain unigol o ddiwedd mis Mai hyd i fewn i fis Mehefin. Genir gefeilliaid ar adegau, ond maent yn brin iawn.
Maith
Mae ceirw cochion yn llysysorion gan bori ar amrywiaeth eang o blanhigion o laswellt a grug i lwyni a choed.
Bygythiadau
Mae’r ysglyfaethwyr naturiol, eirth, lyncsod a bleiddiaid bellach wedi marw allan ym Mhrydain. Yn achlysurol bydd eryrod a llwynogod/cadnói’n lladd elanedd ifanc iawn. Pan fydd niferoedd ceirw cochion yn mynd yn drech na gallu’r cynefin i’w cynnal, gallant gael effaith andwyol ar amrywiaeth rhywogaethau o blanhigion ac achosi difrod i amaethyddiaeth a choedwigaeth. Gallant ddioddef hefyd gan salwch a heintiau. Heddiw, bydd rhodwyr bywyd gwyllt y Comisiwn Coedwigaeth yn rheoli poblogaeth o geirw yn drugarog ac yn deimladol.
Adnabyddiaeth
Mae ceirw cochion yn goch yn ystod yr haf. Mae’r lliw yn newid i lwydgoch yn y gaeaf. Mae’n hawdd adnabod y bychod ifanc gan eu cyrn byrion a’r marciau ar eu pennau. Mae’r cyrn mawrion - rheiddiau - yn nodweddiadol o fychod aeddfed.
Sut y byddwn yn rheoli ein coetiroedd
Mae ceirw cochion yn crwydro’n helaeth ac mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn cydweithio’n agos gyda thirfeddianwyr cyffiniol a phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Ceirw Prydain, Cymdeithas Grwpiau Rheoli Ceirw a Menter Ceirw i reoli poblogaethau o geirw.

