Ym Mhrydain mae’r brithribin du yn Rhywogaeth o Bryder Cadwraethol. Bu ganddo diriogaeth fach ers erioed yn yr hen goedwigoedd Brenhinol yn nwyrain Canolbarth Lloegr, ond mae hon wedi dirywio oherwydd newidiadau mewn rheolaeth goedwigol. Erbyn heddiw mae’r brithribin du wedi’i gyfyngu i wregys o goetiroedd rhwng Rhydychen a Peterborough.
Enw
Brithribin du (Satyrium pruni)
Bywyd
Cynefin
Mae gan y brithribin du ofynion cynefin gweddol benodol. Mae’n well ganddo glystyrau aeddfed, dwys o ddrain duon sy’n tyfu mewn safleoedd cysgodol ar hyd rhodfeydd a llennyrch mewn coetiroedd ac ar hyd ymylon coetiroedd. Weithiau maent hwy’n byw mewn lleoedd mwy agored, megis gwrychoedd neu’r bylchau yng nghanopi coetir aeddfed. I raddau mae ei diriogaeth gyfyng yn ganlyniad i’r arfer o goedlannu bob 20 i 40 mlynedd yn yr hen goedwigoedd Brenhinol gan i hyn roi cyfle i glystyrau aeddfed o ddraenen ddu ddatblygu.
Bridio
Iâr fach yr haf sy’n byw ar ei phen ei hun yw’r brithribin du. Bydd poblogaethau ohonynt yn tueddu i fridio flwyddyn ar ôl blwyddyn yn yr un cynefin bach. Dodwyir wyau unigol ar lwyni drain duon aeddfed yn yr hydref a datblygant yn ystod y gaeaf.
Datblygiad
Mae’r lindys yn deor yn y gwanwyn. Bydd yr ieir bach yr haf aeddfed yn hedfan drwy gydol Gorffennaf ac Awst. Gallant fod yn anodd i’w gweld gan eu bod yn treulio llawer o’u hamser yn uchel yn y coed.
Ymborth
Mae’r lindys yn bwyta dail y drain duon, a dail coed eirin gwyllt weithiau. Mae’r glöynnod aeddfed yn bwyta’r gawod fêl a gynhyrchir gan lyslau (clêr) ar goed masarn lleiaf ac ynn.
Bygythiadau
Mae ardaloedd o ddrain duon aeddfed wedi cael eu darnio o ganlyniad i ailblannu â chonwydd a thrwy golli gwrychoedd a choetiroedd i amaethyddiaeth. Oherwydd pori gan geirw nid yw clystyrau newydd o ddrain duon yn cael cyfle i aildyfu’n naturiol.
Adnabod
O dan yr adain mae rhes amlwg o smotiau duon, yn yr ymyl allanol lliw oren, a phatrwm o wyn ar siâp ‘W’. Mae’n hawdd drysu rhwng y rhywogaeth hon a’r brithribin gwyn a’r brithribin porffor.
Sut y rheolwn ein coetiroedd
Mae rheolaeth sensitif gan y Comisiwn Coedwigaeth, gan weithio mewn partneriaeth â Chadwraeth Glöynnod, wedi sefydlogi’r niferoedd mewn llawer o gymunedau o’r brithribin du. Mae dyfodol yr iâr fach hon yn dibynnu ar warchod y clystyrau presennol o ddrain duon aeddfed. Bydd plannu rhagor o ddrain duon a hybu aildyfiant naturiol yn creu cynefinoedd newydd.