Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to prydain fawr homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

Coedwig gwyllt iwrch
 

Roe Doe In Restocking AreaYn Lloegr, diflannodd yr iwrch o’r tir yn ystod y 18fed ganrif, ond goroesodd mewn rhannau o Ucheldiroedd Canolbarth a Gogledd-orllewin yr Alban. Cafodd nifer o boblogaethau eu hailgyflwyno yn Lloegr ac amcangyfrifir bod tua 500,000 o iyrchod ym Mhrydain bellach.

Enw
Iwrch (Capreolus capreolus)

Bywyd
Cynefin
Mae iyrchod yn byw mewn coetiroedd fel rheol, ond gan fod eu nifer wedi cynyddu’n ddiweddar maent wedi lledu i fannau mwy agored megis tir grug toreithiog, prysgwydd a thir amaethyddol.

Bridio
Diwedd mis Gorffennaf a mis Awst yw tymor bridio (neu dymor rhidio) yr iwrch. Mae ceirw Prydeinig yn wahanol i geirw mewn gwledydd eraill gan fod cyfnod o oedi cyn y bydd yr wy ffrwythlonedig yn cael ei fewnblannu yn y fenyw. Credir mai dyma ffordd natur o ohirio’r enedigaeth nes bod yr amodau’n ffafriol ar gyfer y mynnod. Bydd y mynnod yn cael eu geni y mis Mai neu Fehefin canlynol. Mae gefeilliaid yn gyffredin iawn a cheir tripledi ambell waith. Weithiau, gellir gweld mynnod newydd eu geni yn gorwedd yng nghanol rhedyn, mieri neu wellt. Nid ydynt wedi cael eu gwadu gan y fam, dim ond eu gadael yno dros dro, a bydd eu blew sbotiog yn guddliw iddynt. Bydd yr iyrches wrth ymyl, a bydd yn dychwelyd atynt sawl gwaith y dydd i gael ei sugno.

Datblygiad
Yr adeg bwysicaf ar y flwyddyn i’r bwch yw diwedd Ebrill i fis Mai, pan fydd yn sefydlu ei diriogaeth.

Ymborth
Mae’r iwrch yn llysysydd a bydd yn bwyta pob math o lystyfiant ar y ddaear. Bydd hefyd yn bwyta prysgwydd ynghyd â dail celyn a ffawydd.

Bygythiadau
Mae ysglyfaethwyr naturiol yr iwrch, megis eirth, lyncsod a bleiddiaid, wedi diflannu o Brydain. Pan fydd nifer y ceirw yn cynyddu cymaint fel na all eu cynefin eu cynnal, gallant amharu ar yr amrywiaeth o rywogaethau a pheri difrod i amaethyddiaeth a choedwigaeth. Gall y ceirw hefyd ddioddef o salwch ac afiechydon. Erbyn heddiw, mae ceidwaid bywyd gwyllt y Comisiwn Coedwigaeth yn rheoli poblogaethau’r ceirw mewn ffordd sensitif a gwâr.

Adnabod
Mae’n hawdd adnabod yr iwrch gan fod ganddo gyrn bach a marciau ar ei ben.  Mae’r iyrches yn llai na’r bwch. Yn yr haf, mae blew yr oedolyn yn lliw coch, cyfoethog, tebyg i liw llwynog. Yn y gaeaf, mae’r blew yn troi’n llwydfelyn, gyda melyn yn britho trwyddo. Mae’r crwper yn troi’n wyn, a bydd yn ehangu i ffurfio cylch mawr os caiff yr iwrch ei gyffroi neu ei ddychryn.

Sut y rheolwn ein coetiroedd
Mae gan yr iwrch ddosbarthiad eang ac mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gweithio’n agos â thirfeddianwyr cyfagos i reoli poblogaethau o geirw

 


Lle i weld iwrch yng Nghymru


Oeddech chi'n gwybod
Dim ond bychod sy’n tyfu osglau a fel arfer mae ganddynt 6 blaen llym dros ben.
Ystadegau bywyd

Uchder: gwrywod 63-74 cm

Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov