Ar y 7fed Gorffennaf 2011 croesawodd Tîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu Comisiwn Coedwigaeth Cymru bedair ysgol uwchradd o Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd i’r ganolfan ymwelwyr yng Ngarwnant.
Estynnodd Arweinydd y Tîm, Sue Williams, groeso i’r cynrychiolwyr o Ysgol Gyfun Y Pant, Hawthorn High, Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol Uwchradd Pontypridd i’r gynhadledd. Y thema oedd codi ymwybyddiaeth o goedwigaeth, y diwydiannau sy’n gysylltiedig â’r maes a’r gyrfaoedd sydd ar gael yn y sector.
Nod y gynhadledd oedd hyrwyddo’r diwydiant coedwigaeth fel dewis gyrfaol deniadol.
Cymerodd y cynrychiolwyr ran mewn amryw o weithgareddau yn cwmpasu meysydd amrywiol yn cynnwys: rheoli bywyd gwyllt, plannu coetiroedd, gweithio gyda glasgoed, tyfu coed a rheoli digwyddiadau.
FCW Careers Conference 2011 multimedia module
Mae’r fideo yn Saesneg yn unig.
