Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Lleoliadau Profiad Gwaith

New Forest volunteer conducting a GPS survey of recreation useage in the New Forest. New Forest Forest ParkMae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cynnig amryw o leoliadau profiad gwaith ledled Cymru. Mae nifer cyfyngedig ar gael bob blwyddyn ac fe’u cynigir i bobl ifanc mewn addysg llawn amser.

Mae pob un o’n Lleoliadau Profiad Gwaith yn seiliedig ar Goedwigaeth ac maent yn cynnwys elfennau o’n gwaith amrywiol, fel:

  • Hamdden
  • Cynaeafu a Marchnata
  • Gweithrediadau Coedamaeth
  • Addysg
  • Y Gymuned
  • Peirianneg Sifil
  • Cadwraeth
  • Polisi a Gweinyddiaeth
  • Ynni Adnewyddadwy

Gallwch ddarganfod mwy drwy ddarllen Datganiad i’r Wasg.

Sut i Wneud Cais

Mae’n Lleoliadau’n dilyn trefn ffurfiol ac mae angen cytundeb ffurfiol cyn bod rhaglen waith yn cael ei datblygu. Dynodir lletywr a mentor i bob lleoliad.

Os hoffech chi wneud cais llenwch y Ffurflen Gais  a danfonwch i’r Trefnydd Lleoliadau Gwaith Ffion Hughes neu Ffôn 0300 068 0300. 


Ddim mewn addysg llawn amser?

Prentisiaethau

Ar hyn o bryd mae prentisiaethau ffurfiol ar gael drwy’r Comisiwn Coedwigaeth yn Lloegr a’r Alban.

Nid yw Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cynnig cyfleoedd prentisiaeth ar hyn o bryd. Cysylltwch â Gyrfa Cymru neu LANTRA, y cyngor sgiliau sector ar gyfer coed a phren.

Efallai y bydd contractwyr coedwigaeth a choetir yn cynnig cyfleoedd prentisiaeth – mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn annog hyn drwy’n Contractau Cynaeafu Tymor Hir. Bydd angen i chi gysylltu â’r contractwyr unigol i gael gwybod am y cyfleoedd hyn.

Gwirfoddoli

Os nad ydych mewn addysg llawn amser ond yr hoffech ddysgu am waith Comisiwn Coedwigaeth Cymru mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli ar gael weithiau. Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli cysylltwch â Richard Davies

Beth sydd o ddiddordeb

“Roedd y lleoliad yn ardderchog – mi wnes i wirioneddol fwynhau a dysgu llawer!” Morgan Dafydd, 21 Oed, Gorffennaf 2012

“Mae gen i lawer gwell dealltwriaeth o sut mae edrych ar ôl coedwigoedd a’r gwaith sydd ynddo.” Adam Smith, 17 Oed, Awst 2011

Skilful driving and tree selection help ensure that the natural regenerating successor trees are undamaged in the felling operation - John Deere 1270d Clocaenog Forest

Safleoedd defnyddiol