Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig coed a chynnyrch coedwig arall a gyflenwir yn uniongyrchol o goedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru i brynwyr gyda’r opsiwn o arddangos logo PEFC (Programme for the Endorsement of Forest Certification Schemes) neu logo’r Forest Stewardship Council (FSC).
Mae’r logos hyn yn rhoi sicrwydd fod y cynnyrch yn deillio o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n dda.
Mae’r Comisiwn wedi defnyddio ardystiad FSC er 1999. Bryd hynny, y Comisiwn oedd y gwasanaeth coedwigaeth gwladol cyntaf yn y byd i gael ardystiad i’w holl ddaliad coedwigoedd.
Eglurodd Hugh Jones, Pennaeth Cynaeafu a Marchnata Cymru:
"Mae’r ardystiad FSC wedi gweithio’n dda inni am 11 mlynedd. Caiff ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o’r prif sefydliadau sy’n prynu ein cynnyrch coedwig, a byddwn yn parhau i’w ddefnyddio. Rydym ni, fel busnesau eraill sy’n gwerthu coed ar draws Ewrop, yn ymwybodol fod nifer o brynwyr coed a chynnyrch coedwig arall yn chwilio am ardystiad PEFC ac, mewn rhai achosion, am ardystiad PEFC ac FSC gyda’i gilydd.
Mae hyn yn arbennig o wir ymysg prynwyr tramor sy’n prynu coed o’r Deyrnas Unedig, a hoffem gael yr hyblygrwydd i ateb anghenion ein cwsmeriaid i gyd. Mae’r naill gynllun a’r llall yn defnyddio Safon Sicrwydd Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS) fel sail i’w hardystio yn y DU, ac mae’r naill a’r llall yn cael ei gydnabod gan Central Point of Expertise on Timber (CPET) y Llywodraeth fel cynlluniau sy’n darparu tystiolaeth addas o gyfreithlondeb a chynaliadwyedd at ddibenion caffael pren yn y sector cyhoeddus."
Cafodd y Comisiwn Coedwigaeth ardystiad PEFC am y tro cyntaf ar 9 Mawrth 2010. I gael rhagor o wybodaeth am CPET, ewch i www.cpet.org.uk
Os hoffech wybod mwy, mae croeso ichi gysylltu â Hugh Jones>

