Digwyddiadau
Mae Bwlch Nant yr Arian yn cynnig rhaglen amrywiol a chyffrous o ddigwyddiadau.
Mae’r rhestr isod yn dangos rhai o’r digwyddiadau sydd gennym ar gyfer 2013.
Noder: weithiau bydd ein digwyddiadau’n newid felly ewch i’r wefan am wybodaeth fwy manwl.
Lawr lwytho copi o’n Taflen Digwyddiadau Bwlch Nant yr Arian 2013.
Lawr lwytho copi o’n Taflen Hwyl yn y Goedwig i ganfod syniadau gwych fydd yn eich ysgogi i fynd ar grwydr!
Mai
~ 29ain Coedwigwr Ifanc Amser y sesiynau: 10.30am - 12pm Rhaid Archebu
Digwyddiadau mis Mehefin
Nosweithiau Sesiynau ‘Blasu’ ym Mwlch Nant yr Arian
~ Dydd Mawrth 11eg Mehefin
Cerdded Nordig - Techneg ffitrwydd a gynlluniwyd yn benodol i ddefnyddio cyhyrau rhan uchaf y corff yn ogystal â’r coesau, dewch i roi cynnig arni allan ym Mwlch Nant yr Arian ar ein llwybr pob gallu wrth ymyl y llyn. Bydd y sesiwn yn cael ei arwain gan Ffisiotherapydd / Hyfforddwr Cerdded Nordig cymwysedig Sonja Mendal-Mallmann.
Amserau: 5.30pm – 7.00pm
Cost: £2 y person
(Lleoedd yn gyfyngedig a rhaid archebu lle drwy ffonio Sonja ar 01970 890453 i gael fwy o wybodaeth)
~ Dydd Mawrth 18fed Mehefin
Ffotograffiaeth i Ddechreuwyr - Dewch â’ch camera i gael cynghorion a syniadau ar gael y mwyaf allan ohono. Bydd y sesiwn yn cael ei arwain gan y ffotograffydd lleol Janet Baxter, sy’n adnabyddus am ei ffotograffiaeth bywyd gwyllt yng Nghanolbarth Cymru.
Amserau:5.30pm-7.00pm
Cost:£4 y person
Rhaid Archebu
~ Dydd Mawrth 25ain Mehefin
Taith Gerdded/Adnabod Ystlumod - Ymunwch â’r arbenigwr ystlumod Leigh Denyer ar daith gerdded o amgylch Bwlch Nant yr Arian, gan ddefnyddio synhwyrydd ystlumod gallwch adnabod a dysgu am yr ystlumod sy’n byw fan yma (gall hylif cadw pryfed draw a thortsh fod yn ddefnyddiol).
Amserau: 8.30pm – 9.30pm
Cost: £2 y person
Rhaid Archebu
Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle, ffoniwch y coedwigwr ar 01970 890453

