Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Sports Events at Coed Y Brenin - photograph of mountain biker and Autumn scenes 2010

Digwyddiadau Chwaraeon

Dreigiau Coed y Brenin'

Bob Dydd Sadwrn, rhwng 9.30am a 11.30am

Clwb beicio mynydd i'r teulu sydd yn cynnig:. Sesiynau sgiliau/teithiau llwybrau achlysurol/gweithgareddau grwp i'r teulu cyfan... Dewch, os ydych am roi cynnig ar yr hwyl o feicio mynydd. Bydd angen i chi ddod â beic mynydd sydd mewn cyflwr da gyda chi a helmed  Am fwy o wybodaeth neu ffurflen aelodaeth, cysylltwch a ni yn: info@dreigiaucoedybrenindragons.co.uk  


Beicio Mynydd XC Pencampwriaethau 2012

 Dydd Sul 02 Mis Medi     British Cycling



 

The howies Coed y Brenin Enduro 

Dydd Sadwrn 29ain Hydref 2012

Mae 'howies Coed y Brenin Enduro yn ddigwyddiad newydd sbon, sy'n cael ei gynnal, ie .... wir .... ym mharc coedwig Coed y Brenin, ar ddydd Sul 29 Hydref, i ddechrau am 10.00yb.

Rydyn ni, sef y criw amryliw sydd am gyflwyno ' howies Dyfi Enduro i chi, wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am y prinder anhrefn diwedd tymor sydd yn ein bywydau ac felly,  er mwyn creu cyffro, ac fel ad-daliad i'r cannoedd a fethod gael lle yn Dyfi Enduro a oedd wedi ' gwerthu mas fel aduniad Take That' roeddem yn ystyriae creu diwyddiad newydd sbon yng nghoedwig beicio mynydd enwocaf y DU.

Nid ras na chystadleuaeth mo hwn digwyddiad heriol sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol.  Gallwch fynd mor gyflym neu araf prawf ar wytnwch corfforol,  er afallai bydd rhaid i feicwyr hwyr ar yr her 60km gael eu cyfeirio adref ar hyd llwybrau mwy uniongyrchol dywyllu.  Bydd y digwyddiad yn dechrau o'r maes parcio ar gyfer gorlewi sydd ger caban Go-Ape, lle bydd gennych ychydig o filltiroedd o ffordd goedwig agored i wahnu'r beicwyr cyn dechrau ar hyd y llwybrau cul.  I gofrestru ewch i:

howies Coed y Brenin Enduro


Marathon Llwybr Cymru Dydd Sadwrn 22 Mehefin 2013  (dyddiad i'w cadarnhau)

Fydd y digwyddiad llwyddiannus yma'n dychwelyd i Goed y brenin am ail flwyddyn, dewiswch un ai marathon llawn neu hanner marathon am ychydig o hwyl canol haf ar hyd y llwybrau yng Nghoed y brenin.  Ewch i Marathon Llwybr Cymru am fwy o wybodaeth ac am ganlyniadau 2012.


Grŵp Cerdded Nordig

Bob Dydd Iau

Mae’r Grŵp Cerdded Nordig yn cyfarfod yn ardal Coed y Brenin. Darperir polion. Os nad ydych wedi rhoi cynnig ar y dull ardderchog hwn o ymarfer, dewch i un o’n sesiynau blasu. Manylion gan Catrin Roberts 07900 615380.  e-bost: cerddednordigcymru@live.co.uk