Cyhoeddwyd Rheoli Ceirw Gwyllt yng Nghymru, strategaeth Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer ceirw, ym mis Chwefror 2011. Mae’n pennu nodau ac amcanion LlC ar gyfer rheoli ceirw’n gynaliadwy yng Nghymru – yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Datblygwyd y strategaeth gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru dan arweiniad partneriaeth ac mae’n cynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Partneriaeth Menter Ceirw a LlC.
Mae’r strategaeth yn cefnogi gweledigaeth LlC bod “Cymru yn elwa ar ei phoblogaeth o geirw gwyllt mewn cydbwysedd â’r amgylchedd naturiol, cymdeithasol ac economaidd.” Mae’r strategaeth yn cydnabod y byddai’n anoddach cyflawni sawl un o’r amcanion yn strategaeth Coetiroedd i Gymru a’r amcanion ar gyfer amaethyddiaeth a’r amgylchedd naturiol pe byddai cynnydd ym mhoblogaeth y ceirw. Serch hynny, dylem atgyfnerthu pa mor werthfawr yw’r carw gwyllt yn ein treftadaeth naturiol a sicrhau bod unrhyw gamau rheoli gofynnol yn gynaliadwy ac yn cael eu gwneud mewn ffyrdd diogel, tirion ac effeithiol.
Mae’n rhaid llunio strategaeth oherwydd:
- Ceirw a’u heffeithiau yng Nghymru
- Ymrwymiadau rhyngwladol LlC at fioamrywiaeth
- Polisïau a blaenoriaethau LlC gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â’r amgylchedd, bioamrywiaeth ac amaethyddiaeth
- Coetiroedd i Gymru: Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Coetiroedd a Choed.
Wrth ddatblygu’r strategaeth cynhyrchwyd papur materion a gwahoddwyd sylwadau rhanddeiliaid. Cynhwyswyd ymateb y rhanddeiliaid yn y strategaeth a gyhoeddwyd.
Cynllun Gweithredu
Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cymru 2011-2016 ar gyfer rheoli ceirw gwyllt ym mis rhagfyr 2011 ac mae'n amlinellu'r hyn sydd angen ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni nodau'r strategaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am reoli ceirw gwyllt yng Nghymru, cysylltwch â fcwenquiries@forestry.gsi.gov.uk
Cewch hefyd ffonio Comisiwn Coedwigaeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth - 03000 680300.

