Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Phytophthora in larch

Achosion o Phytophthora ramorum yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae Phytophthora ramorum (P. ramorum) yn bathogen sy’n debyg i ffwng sy’n achosi difrod helaeth ac yn lladd coed a phlanhigion eraill.

Yn y DU , roedd P. ramorum wedi cael ei ddarganfod gan amlaf  ar blanhigion a llwyni, yn enwedig rhododendron, ond yn 2009, fe ganfu ei fod yn heintio ac yn lladd nifer fawr o goed larwydd Siapan yn Ne-orllewin Lloegr.

Dyma’r tro cyntaf yn y byd yr oedd P. ramorum wedi heintio a sborynnu (atgynhyrchu) ar nifer fawr o rywogaethau coed conwydd sy’n bwysig yn fasnachol.

Yn 2010, darganfuwyd P. ramorum ar goed larwydd Siapan yng Nghymru (a hefyd yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon).

P. ramorum yng Nghymru

Ym mis Mai 2010, cadarnhawyd achos mawr yng nghoetiroedd Llywodraeth Cymru sy’n cael eu rheoli gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn ne Cymru (yn Nyffryn Afan, ger Port Talbot; Cwm Garw, ger Pen-y-bont ar Ogwr; a Bro Morgannwg).

Hefyd y llynedd, darganfuwyd coed larwydd Siapan heintiedig mewn coetir cyhoeddus yn Nant yr Arian, ger Aberystwyth, ac roedd tri achos bach ar safleoedd preifat yng Nghymru. Darganfuwyd cyfanswm o 876 hectar o goed larwydd Siapan  wedi’u heintio yng Nghymru yn 2010.

Yn y gwanwyn 2011, ailddechreuwyd cynnal arolygon ar ôl i’r coed larwydd adennill eu nodwyddau. Mae canfyddiadau cychwynnol o’r arolygon hyn yn dangos bod y clefyd coed angheuol hwn wedi heintio 227 hectar arall o goed larwydd yng Nghymru.

Mae’r rhan fwyaf o’r coed sydd newydd gael diagnosis, mewn coetir ar bwys ardaloedd y darganfuwyd eu bod wedi cael eu heintio â chlefyd ramorum y llynedd yn Nyffryn Afan, ger Port Talbot.

Mae’r clefyd ramorum wedi cael ei gadarnhau mewn nifer fach o goed larwydd ym Mwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth hefyd, lle cwympwyd 60 o goed heintiedig yn 2010, ac, am y tro cyntaf, ger cronfa ddŵr Alwen yng Nghoedwig Hiraethog, gogledd Cymru.

Mae’r map achosion yn dangos ble mae haint P. ramorum wedi cael ei gadarnhau yn y Deyrnas Unedig.

Cwympo coed larwydd Siapan sydd wedi cael eu heintio

Mae coed larwydd yn cynhyrchu nifer uchel o’r sborau sy’n lledaenu’r clefyd, ac o ganlyniad, gall llawer o goed larwydd gael eu heintio’n gyflym iawn.

Nod cwympo’r coed heintiedig hyn yw cyfyngu ar gynhyrchiad y sborau sy’n lledaenu’r clefyd hwn ac felly, lleihau effaith yr achos.

Mae pob tirfeddiannwr sydd â choed heintiedig wedi cael cyfarwyddiadau neu hysbysiad gan Wasanaeth Iechyd Planhigion y Comisiwn Coedwigaeth o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 i gwympo’r mannau sydd wedi cael eu heintio.

Mae’r gwaith o glirio coed larwydd wedi’u heintio wedi dechrau, a bydd wedi cael ei gwblhau erbyn y Gwanwyn 2011.

Nid yw P. ramorum yn niweidio’r pren ac nid oes unrhyw risg o ledaenu’r clefyd o bren sydd wedi cael ei brosesu.

Gweithio mewn coetiroedd sydd wedi cael eu heintio ac ymweld â nhw

Nid yw P. ramorum yn niweidiol i fodau dynol nac anifeiliaid, ond mae’n rhaid i bawb sy’n gweithio neu sy’n ymweld â’r mannau heintiedig ddilyn rhai rhagofalon syml fel nad ydynt yn lledaenu’r clefyd yn anfwriadol. 

Mae pob coetir sy’n cael ei reoli gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn parhau ar agor i’r cyhoedd – yr unig gyfyngiad ar fynediad i’r cyhoedd yw mewn mannau lle mae cwympo wedi dechrau.