Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Sut i Fod yn Arweinydd Ysgol Goedwig

Er mwyn bod yn ymglymedig â chyflwyno’r Ysgol Goedwig, mae’n bwysig ymgymryd â’r hyfforddiant angenrheidiol.  Yng Nghymru, er mwyn gallu arwain a chyflwyno sesiynau’r Ysgol Goedwig, mae’n rhaid bod gan unigolyn:

  • Ddyfarniad Ysgol Goedwig Rhwydwaith y Coleg Agored (OCN) Cymru Lefel III neu ddyfarniad arweinydd Ysgol Goedwig BTEC.
  • Tystysgrif ITC cyfredol mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith neu Gymorth Cyntaf yn yr Awyr Agored.
  • Datgeliad CRB uwch.


Cyrsiau Lefel 3 Ymarferydd Ysgol Goedwig rydym yn ei ddarparu:

Bydd y cwrs nesaf Lefel 3 Ymarferydd Ysgol Goedwig yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae cyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg hefyd ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dyddiadau'r cwrs:
Sesiwn Blasu Lefel 3 Ymarferydd Ysgol Goedwig - 7 Mai 2013, 4.00-5.15 yh, Coed Beddgelert

5 Diwrnod hyfforddi cychwynnol: Dydd Llun 20 Mehefin – dydd Gwener 24 Mehefin 2013, Capel Curig

Diwrnodau ymarferol: 11 & 12 Gorffennaf - lleoliad i'w gadarnhau, rhywle yn y Gogledd Orllewin

Rhaglen Ysgol Goedwig (dan hunan arweiniad): rhwng Medi  a Rhagfyr 2013

Gweithdy cwblhau’r cwrs: Dydd Gwener 24 Ionawr 2014

Cwblhau’r cwrs: Dydd Gwener 4 Ebrill 2014

Cost: £600



Os ydych yn dymuno gwneud cais am y cwrs uchod, cysylltwch â chydlynydd  yr Ysgol Goedwig, Ffion Hughes . Yna byddwch yn derbyn ffurflen gais ar gyfer eich cwrs dewisol tua 3 mis cyn y dyddiad cychwyn. Bydd angen i chi gwblhau’r cais yn llawn, ei lofnodi, a’i ddychwelyd erbyn y dyddiad gofynnol er mwyn cael eich ystyried am le. Cyrsiau'n cael eu cyfyngu i 16 o fyfyrwyr.

Fe fydd cost ychwanegol o rhwng £90 -£110  ar gyfer cwrs Cymorth Cyntaf os fydd ei angen.

Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei gynnwys ar yr hyfforddiant yma gweld ein Canlaw i'r Ysgol Goedwig yng Nghymru.