Bydd pobl ag anableddau yn gallu mynd yn nes at rai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yng nghanolbarth Cymru wedi i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru uwchraddio rhai o’r cyfleusterau yng nghoedwig Hafren ger Llanidloes. Mae’r Comisiwn yn buddsoddi £43,000 mewn llwybrau coedwig, gan gynnwys cyfleusterau pob gallu, a fydd yn gwneud y goedwig yn fwy hygyrch i bawb.
Mae Llwybr y Rhaeadrau, sy’n hanner milltir o hyd, yn mynd ag ymwelwyr ar hyd glannau Afon Hafren at raeadrau hardd, a bydd arwyneb newydd gwrth-lithr yn cael ei osod ar y 100m o lwybr bordiau
Mae’r llwybr, a gafodd ei gynllunio mewn partneriaeth â chymdeithasau lleol i bobl anabl, yn hawdd ei ddilyn, ac mae yma fannau gorffwys a llwyfan lle gall pobl eistedd a mwynhau’r olygfa.
Gellir cyrchu llwybrau’r goedwig drwy safle picnic Rhydybenwch, sydd chwe milltir i’r gorllewin o Lanidloes. Gellir cyrraedd atynt hefyd o gwr gogleddol Llyn Clywedog drwy deithio ar hyd ffyrdd gwledig.
