Mae ynni gwynt yn ffynhonnell lân, adnewyddadwy o ynni nad yw’n cynhyrchu unrhyw nwyon tŷ gwydr na chynhyrchion gwastraff.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi nodi bod gan ffermydd gwynt ar y tir ran allweddol i’w chwarae o ran helpu i ddiwallu rhwymedigaethau ynni adnewyddadwy.
Yn 2005, fel ymateb i bolisi ynni llywodraeth y DG, sydd â tharged o gynhyrchu 10% o’n trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2010, cyhoeddodd y Cynulliad Nodyn Cyngor Technegol 8 (TAN8): Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy. Mae TAN 8 yn cynnwys targedau uchelgeisiol ar gyfer datblygu ffermydd gwynt erbyn 2010 yng Nghymru. Mae Trywydd Ynni Adnewyddadwy’r Cynulliad, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, yn debygol o bennu targedau uwch.
Fel rheolwyr coetiroedd y Cynulliad, mae gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru gyfrifoldeb i helpu i gyrraedd y targedau hyn.
Bu ein Pwyllgor Cenedlaethol yn ystyried y ffordd orau o fynd ati i gyflawni amcanion ynni adnewyddadwy’r Cynulliad ar ôl archwilio sefyllfa statudol CCC. Arweiniodd hyn at sefydlu Rhaglen Ffermydd Gwynt yr Ystad Goedwig Genedlaethol (RFGYGG).
