
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru (CCC) wedi ymrwymo i hyrwyddo’r defnydd o goed fel tanwydd economaidd, cynaliadwy a charbon-niwtral.
Wrth i fwy a mwy o bobl yng Nghymru droi at ddefnyddio coed fel tanwydd, rydym yn newid y ffordd yr ydym yn gwerthu coed tân er mwyn ymateb i’r galw cynyddol yn y ffordd fwyaf priodol.
Rydym yn awyddus i gefnogi datblygu cadwyn gyflenwi coed tân yng Nghymru a fydd yn darparu cynnyrch coed tân o ansawdd, a hefyd yn cefnogi mentrau cymunedol. Ein nod yw datblygu rhwydwaith o fasnachwyr coed tân lleol a mentrau cymunedol a fydd yn barod i gasglu coed oddi ar ochrau ffyrdd y goedwig a’u prosesu’n goed tân ar gyfer y cartref.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn gwahodd tendrau gan bobl a all fod yn dymuno prynu defnydd i’w brosesu’n goed tân. I gael rhagor o wybodaeth, a fyddech cystal â chlicio yma.
Newidiadau diweddar yn y ffordd yr ydym yn gwerthu coed tân
Hyd yma, rydym wedi gallu ymateb i geisiadau gan unigolion am foncyffion sy’n weddill ar sail ad hoc, gan wneud 50 o werthiannau o’r fath bob blwyddyn. Gwerthiannau o goed oddi ar ochr y ffordd oedd y rhan fwyaf o’r rhain. Nid yw "hel coed tân" erioed wedi bod yn arfer cyffredin yng Nghymru.
Wrth i’r galw am goed tân gynyddu, mae wedi dod yn llawer anos i ni gwrdd â disgwyliadau unigolion. Mae cyflenwadau coed tân hefyd yn gyfle busnes a allai helpu i greu swyddi yn y cyfnod economaidd anodd hwn. Yn erbyn y cefndir hwn, rydym wedi penderfynu bod angen i ni symud i ffwrdd o’r arfer o werthu coed i unigolion, ac y byddwn yn hytrach yn helpu i ddatblygu cyflenwyr lleol er mwyn cwrdd â’r galw. Rydym yn credu mai dyma’r ffordd orau ymlaen er mwyn cael mwy o goed tân i fwy o bobl, ac er mwyn cefnogi’r economi lleol. Byddwn yn cyhoeddi enwau’r masnachwyr hyn ar ein gwefan fel y gall unrhyw un sy’n dymuno prynu coed tân lleol a chynaliadwy o Goetiroedd y Llywodraeth gysylltu â hwy yn hawdd.
Byddai CCC yn hapus i ystyried cynigion gan fentrau cymunedol sy’n bwriadu defnyddio’r adnodd gwerthfawr hwn i greu swyddi a chynhyrchu tanwydd o goetiroedd sy’n agos i’w cartrefi. A fyddech cystal â chlicio yma i gael rhagor o wybodaeth.
Mae nifer o enghreifftiau o brosiectau lle rydym wedi gweithio’n agos â chymunedau drwy Gymru gyfan.
